×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Teacher; Welsh – Ysgol Bro Teifi

Job in Llandysul, Ceredigion, SA44, Wales, UK
Listing for: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Full Time position
Listed on 2026-02-28
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    Healthcare Consultant, Surgeon, Medical Doctor
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 40000 - 60000 GBP Yearly GBP 40000.00 60000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Teacher (Welsh) – Ysgol Bro Teifi

Dyddiad Dechrau:
Medi 1af 2026

Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ymuno a’r gyfadran hynod lwyddiannus fel athro/athrawes Y Gymraeg ar gytundeb llawn amser dros gyfnod mamolaeth deiliaid presennol y swydd. Rydym yn awyddus iawn i glywed wrth athrawon profiadol neu newydd gymhwyso i ymuno gyda’n tîm ymroddgar o athrawon Cymraeg.

Byddyr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • addysgu gwersi Cymraeg i Flynyddoedd 7
    -10 (ystyrir cyfleoedd Bl 11-13 i ymgeiswyr profiadol)
  • angerddol dros y Gymraeg ac at ddysgu ac yn barod i fynd y filltir ychwanegol i wneud yn siŵr fod disgyblion yn derbyn profiadau dysgu cyffrous, hwylus a gwerthfawr er mwyn cyflawni 4 diben y cwricwlwm
  • addysgwr rhagorol
  • ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial

Ysgol gydol oed 3-19 yw Ysgol Bro Teifi wedi ei lleoli y tu allan i dref Llandysul yn ne-ddwyrain Ceredigion. Mae rhyw 45 munud o daith o ddiwedd yr M4 a 30 munud o dref Caerfyrddin. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal wledig, Gymreig gyda thua 79% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl a bron i 64% yn siarad Cymraeg yn y cartref.

Agorwyd yr ysgol ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf.

Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu ac ar hyn o bryd mae 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda thua 85 yn y chweched dosbarth.

Arolygwyd yr ysgol gan Estyn yn Nhachwedd 2024 ac adroddwyd bod:

… staff a disgyblion Ysgol Bro Teifi yn cydweithio’n agos i greu awyrgylch deuluol a chynnal ethos cynhwysol a gofalgar. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn sicrhau bod popeth sydd eu hangen arnynt o ran gofal a chefnogaeth ar gael yn ddi-rwystr. O’r dysgu sylfaen i’r chweched dosbarth, mae’r disgyblion yn gwireddu arwyddair yr ysgol, ‘Oni heuir, ni fedir’, yn llwyddiannus, gan fanteisio ar y cyfleoedd i ddatblygu’n ddinasyddion cyfrifol, parchus a charedig.

.. mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd addas dros amser o ystyried eu hoed a’u gallu. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Maent yn dangos parch at ei gilydd ac at staff ac maent yn annwyl a chroesawgar gydag ymwelwyr. Mae bron bob disgybl yn y chweched dosbarth yn arddangos agweddau arbennig o gadarnhaol.

Mae arweinwyr a staff yn cynllunio’n fwriadus i fodloni nifer o flaenoriaethau lleol a chenedlaethol; er enghraifft, mae staff yn hybu’r Gymraeg a Chymreictod yn hynod o lwyddiannus. Datblygant falchder disgyblion at eu hiaith, eu hunaniaeth a’u treftadaeth yn gelfydd.

Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Noder:
Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.

Sylwch na bydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad.

Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary