Swyddog Gweinyddol, Cymraeg Hanfodol; Dyddiad Cau
Listed on 2026-10-16
-
Manufacturing / Production
Swyddog Gweinyddol, Gyrfa Cymru
Ydych chi'n chwilio am swydd sy’n rhoi cyfle i weithio mewn tîm sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sydd â ffocws ar gwsmeriaid i ymuno â'n tîm a darparu cefnogaeth weinyddol er mwyn ein galluogi ni i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfarwyddyd gyrfaoedd ac annog hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bobl o bob oed yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaeth Cymru’n Gweithio.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon fod â sgiliau Cymraeg lefel Ganolradd o leiaf.
Rôl Swydd: Swyddog Gweinyddol
Sylfaen: Canolfan Gyrfaoedd Llanelli
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener
Graddfa Gyflog: £25,957 - £26,131
Cyflog cychwynnol: £25,957 y flwyddyn.
Dyddiad Cau: Hanner nos ar y 21/10/26.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth gweinyddol a gwasanaetha derbynfa effeithlon ac effeithiol i dîm Cymru’n Gweithio. Fel rhan o'r rhaglen hyfforddi ar gyfer y rôl, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â Phrentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 2, os nad yw'n meddu ar y cymhwyster hwn eisoes.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos y canlynol:
- Sgiliau Iaith Gymraeg h.y. y gallu i ddeall a chyfathrebu'n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy'n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau, ac esbonio syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus. Dylech hefyd allu darllen cyfathrebiadau gwaith syml ac ysgrifennu negeseuon e-bost neu lythyrau clir, wedi'u strwythuro'n dda er mwyn rhannu gwybodaeth, gwneud ceisiadau neu drefnu gweithgareddau.
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol a'r gallu i ddelio ag ymholiadau (ffôn, e-bost ac wyneb yn wyneb) gan aelodau o'r cyhoedd, staff mewnol a rhanddeiliaid allweddol.
- Ymrwymiad i ddangos gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Y gallu i ddelio ag ymholiadau nad ydynt yn arferol lle gallai fod angen trafod a pherswadio
- Sgiliau digidol y gellir eu dangos
- Y gallu i drefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith ei hun a gofynion amrywiol o ran terfynau amser
- Y gallu i ddefnyddio crebwyll a barn mewn dyletswyddau o ddydd i ddydd
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyna'r peth iawn i'w wneud!
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein proses recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod y gall pobl fod yn anabl gan y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi'u cynllunio - nid gan eu amhariad neu wahaniaeth.
Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch yn ystod y broses recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Bydd y broses ddethol ar ffurf prawf ymchwil/ysgrifenedig a chyfweliad. Bydd yr asesiadau hyn yn cael eu cynnal yn ddigidol drwy Teams; cynhelir y prawf ymchwil/ysgrifenedig ar 06/11/2026, a chynhelir y cyfweliadau ar 09/11/2026 ac ar fore’r 11/11/2026.
I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen manyleb lawn y swydd:
Swyddog Gweinyddol
Buddion deniadol gan gynnwys gweithio hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Sylwch nad ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).