Uwch Reolwr Ymgysylltu; Cymru; Cymraeg Hanfodol/Senior Engagement Manager Welsh
Listed on 2026-11-01
-
Retail
Financial Reporting
Permanent/Full Time
Salary£42,297 to £48,697 (R4)
LocationGartref yn Ngogledd Cymru / Home based in North Wales
Final date to receive applicationsSunday, November 8, 2026
Cronfa Treftadaeth y Loteri GenedlaetholFel y cyllidwr mwyaf ar gyfer treftadaeth y Deyrnas Unedig, ein gweledigaeth yw bod treftadaeth yn cael ei gwerthfawrogi, ei gofalu amdani a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.
Rydym yn credu ym mhŵer treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i feithrin balchder mewn lle a chysylltiad â'r gorffennol.
Ein cenhadaeth yw defnyddio ein harbenigedd i gefnogi a hyrwyddo treftadaeth y DU a dangos potensial trawsnewidiol cyllid y Loteri Genedlaethol trwy gyflawni ein strategaeth newydd Treftadaeth 2033. Rydym yn sicrhau bod arian gan y Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.
- Dyddiad cau ceisiadau ar Hanner nos 8 Tachewdd 2026
- Disgwylir i gyfweliadau ddigwydd ar 24 Tachwedd 2026
Caiff ceisiadau a gyflwynir gan y Gymraeg a'r Saesneg eu trin yn gyfartal. Cynhelir cyfweliadau yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Cronfa Treftadaeth yng Nghymru. Bydd deiliad y swydd yn arwain ar ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid Cymraeg a Saesneg yng Ngogledd Cymru, yn enwedig o amgylch ein Mentrau Strategol Treftadleoedd a Threftadaeth mewn Angen:
Addoldai. Bydd deiliad y swydd hefyd yn mabwysiadu dull sy'n cael ei arwain gan ddata i annog ceisiadau newydd sy'n ystyried pob un o bedwar Egwyddor Buddsoddi Cronfa Treftadaeth, gan gynnig cyngor cyn ymgeisio, trefnu a mynychu digwyddiadau a chyfrannu at ein gweithgaredd marchnata a chyfathrebu.
Bydd y deiliad swydd hefyd yn dal portffolio buddsoddi grant. Bydd hyn yn cynnwys asesu ceisiadau am gyllid a monitro y prosiectau hynny a ariennir.
Ein Gwerthoedd- Cynhwysol o bob agwedd ar dreftadaeth, pobl a chymunedau
- Uchelgeisiol ar gyfer ein pobl, ein cymunedau a'n treftadaeth
- Cydweithio drwy weithio a dysgu gyda'n gilydd
- Ymddiried yn ein gonestrwydd, ein harbenigedd a'n barn
Mae gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol swyddfeydd ledled y DU ac rydym yn hyrwyddo dull hyblyg o weithio lle mae hyn yn cefnogi ein hanghenion busnes. Rydym wedi mabwysiadu dull gweithio hybrid yn ffurfiol. Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o weithwyr yn gweithio o swyddfa Cronfa Treftadaeth dan gontract ddwywaith yr wythnos o leiaf. Mae'r amser a dreulir ar ymweliadau safle â phrosiectau neu gyfarfodydd eraill sydd wedi'u lleoli swyddfa arall y Gronfa Treftadaeth neu swyddfa allanol arall yn cael ei gyfrif fel rhan o'r ddau ddiwrnod hynny.
Gall weithio o adref ar dyddiau eraill yn ytsod yr wythnos.
Rydym yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol gofynnol ar gyfer pob swydd wag. Rydym bob amser yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol a gellir trafod a threfnu gofynion arbennig cyn cyfweliad.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn addo darparu amgylchedd gweithio a dysgu cynhwysol i'n pobl sy'n blaenoriaethu tegwch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ogystal ag urddas a pharch dwn yn creu gweithle lle nad yw bygythiadau, gwahaniaethu, aflonyddu, bwlio ac erledigaeth yn cael eu goddef a'u hatal a'u gwrthwynebu'n weithredol.
The National Lottery Heritage FundAs the largest funder for the UK's heritage, our vision is for heritage to be valued, cared for and sustained for everyone, now and in the future.
We believe in the power of heritage to ignite the imagination, offer joy and inspiration, and to build pride in place and connection to past.
Our mission is to use our expertise to support and champion the UK's heritage and demonstrate the transformative potential of National Lottery funding…
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).