Skip to content
×

Rheolwr Data Pherfformiad

Listing for: Isle of Anglesey County Council
Full Time position Listed on 2026-11-19
Job specializations:
  • Restaurant/Food Service
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 45000 - 65000 GBP Yearly GBP 45000.00 65000.00 YEAR

Job Description & How to Apply Below

Position: Rheolwr Data a Pherfformiad

Bydd y dolenni hyn yn agor tab newydd yn eich porwr.

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.

Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff:
Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i arwain a chydlynu’r gwaith o ddatblygu Cynllun Strategol Data y Cyngor a chefnogi’r gwaith parhaus i ddatblygu trefniadau rheoli perfformiad effeithiol. Bydd y deilydd swydd yn darparu arweinyddiaeth broffesiynol ym maes data a pherfformiad, gan helpu’r Cyngor i wella ansawdd, cysondeb, llywodraethiant a’r defnydd o ddata, gan sicrhau bod gwybodaeth berfformio yn ystyrlon, yn brydlon ac yn cael ei ddefnyddio i cefnogi cynllunio, atebolrwydd, craffu a gwelliannau.

Bydd y deilydd swydd yn gweithio gyda gwasanaethau ar draws y Cyngor i ddeall eu hanghenion data, cryfhau diffiniadau a safonau data, gwella’r wybodaeth ddibynadwy sydd ar gael, a dehongli data er mwyn ei defnyddio i wneud gwell ddewisiadau. Bydd hefyd yn helpu gwasanaethau i ddefnyddio’r data hwnnw i fonitro cynnydd, deall tueddiadau, rheoli risgiau a dangos effaith eu gwaith ar gyfer trigolion a chymunedau.

O fewn y swydd, rhaid canolbwyntio ar gyfuno’r gwaith o adrodd ar ddata, ar berfformiad a dadansoddi mewn ffordd sy’n rhoi tystiolaeth glir, sicrwydd priodol a manylion ymarferol i arweinwyr, aelodau etholedig a gwasanaethau ar ddarparu yn erbyn blaenoriaethau, dyletswyddau statudol, amcanion gwasanaeth a gweithgareddau gwella.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Mae'r dogfennu atodedig ar gael yn y linciau. Bydd clicio ar linc dogfen yn cychwyn ei lawrlwytho.

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction

Search for further Jobs Here:

SEARCH JOBS: 10+ Million Listings
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Language of Job Posting:
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary