×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Director of Governance & Performance

Job in Merthyr Tydfil, Merthyr Tydfil County, CF47, Wales, UK
Listing for: GatenbySanderson
Full Time position
Listed on 2026-08-12
Job specializations:
  • Manufacturing / Production
    Electrical Engineering, Manufacturing Engineer, Electronics Engineer
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 90000 - 120000 GBP Yearly GBP 90000.00 120000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Cyfarwyddwr Llywodraethu a Pherfformiad

Adeiladu Rheoleiddiwr Cenedlaethol Newydd Cymru. Amddiffyn Cymunedau. Gadael Etifeddiaeth Barhaol

Mae pawb yng Nghymru yn haeddu teimlo’n ddiogel rhag y risgiau a achosir gan domenni nas defnyddir ansefydlog.

Lleoliad:

Bydd pencadlys yr Awdurdod ym Mharc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ
.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fynychu'r swyddfa ym Merthyr Tudful yn rheolaidd i cefnogi cydweithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Mae Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru yn cael ei sefydlu o dan Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol ar gyfer diogelwch, rheoli a rheoleiddio tomenni nas defnyddir. Fel rheoleiddiwr cenedlaethol newydd Cymru, bydd yr Awdurdod yn darparu dull cyson, sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth ac sy’n seiliedig ar risg o reoli risg tomenni nas defnyddir a helpu i amddiffyn cymunedau ledled Cymru.

Yn y cyd-destun hwn, mae'r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Pherfformiad yn chwarae rôl ganolog nid yn unig wrth sicrhau llywodraethu a sicrwydd cadarn, ond hefyd wrth lunio sut y mae'r sefydliad yn gweithredu, yn gwneud penderfyniadau ac yn dwyn ei hun i gyfrif.

Mae'r rôl hon yn sylfaenol i greu a chynnal amgylchedd lle mae:

  • Penderfyniadau yn cael eu gwneud yn glir, yn hyderus ac yn dryloyw
  • Perfformiad yn cael ei ddeall, ei ategu gan dystiolaeth a'i wella'n barhaus
  • Polisïau gweithredol yn cael eu datblygu, eu gweithredu a'u rhannu'n genedlaethol
  • Llywodraethu yn galluogi cyflawni yn hytrach na'i gyfyngu
  • Y sefydliad yn gweithredu ag uniondeb, yn agored a chyda phroffesiynoldeb

Fel aelod o'r Tîm Gweithredol, mae gan ddeiliad y swydd rôl arweinyddiaeth hanfodol wrth osod tôn, llunio diwylliant a modelu ymddygiad, gan sicrhau bod yr Awdurdod nid yn unig yn effeithiol o ran yr hyn y mae'n ei gyflawni, ond hefyd yn gorff y gellir ymddiried ynddo o ran y ffordd y mae'n gweithredu.

Tasgau Allweddol:

A chithau'n Gyfarwyddwr Llywodraethu a Pherfformiad, byddwch yn darparu arweinyddiaeth weithredol ar gyfer swyddogaethau llywodraethu, polisi gweithredol, perfformiad, cyllid a sicrwydd yr Awdurdod, gan sicrhau bod gan y sefydliad y fframweithiau, y rheolaethau, y mewnwelediad a'r atebolrwydd sydd eu hangen i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol ac i wireddu ei uchelgeisiau strategol.

Fel un o Gyfarwyddwyr Gweithredol sefydlu'r Awdurdod, byddwch yn chwarae rôl arweiniol wrth sefydlu rheoleiddiwr cenedlaethol newydd, gan lunio'r sefydliad a'r systemau sy'n cefnogi llywodraethu effeithiol, perfformiad sefydliadol a hyder y cyhoedd.

  • disgyblaeth berthnasol (e.e. Llywodraethu, Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Rheoli Busnes, Cyllid, y Gyfraith, Datblygu Sefydliadol neu faes cysylltiedig) neu brofiad proffesiynol cyfatebol sylweddol.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu fframwaith llywodraethu a sicrwydd yr Awdurdod.
  • Sicrhau bod trefniadau llywodraethu yn galluogi gwneud penderfyniadau, atebolrwydd a chyflawni effeithiol.
  • Darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer polisi gweithredol, perfformiad sefydliadol a gwelliant parhaus.
  • Goruchwylio trefniadau rheoli risg, stiwardiaeth ariannol a sicrwydd sefydliadol.
  • Darparu hyder a sicrwydd i'r Prif Weithredwr, y Bwrdd a Llywodraeth Cymru ynghylch perfformiad sefydliadol, llywodraethu a stiwardiaeth adnoddau cyhoeddus.

Byddwch yn helpu i greu corff cyhoeddus atebol y gellir ymddiried ynddo ac sy'n uchel ei berfformiad, sy'n gweithredu ag uniondeb, tryloywder a phroffesiynoldeb ac sy'n darparu gwerth cyhoeddus parhaol i bobl Cymru.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano

Rydym yn chwilio am arweinydd gweithredol profiadol sydd â chefndir cryf mewn llywodraethu, perfformiad sefydliadol, cyllid, sicrwydd neu atebolrwydd yn y sector cyhoeddus, ynghyd â hanes profedig o arwain swyddogaethau cymhleth mewn amgylcheddau sy’n destun craffu uchel ac sy’n atebol i’r cyhoedd.

Byddwch yn meddu ar:
  • Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (e.e. Llywodraethu, Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Rheoli Busnes, Cyllid, y Gyfraith, Datblygu Sefydliadol neu faes cysylltiedig) neu brofiad proffesiynol cyfatebol sylweddol.
  • Profiad sylweddol o arwain swyddogaethau llywodraethu, perfformiad, sicrwydd neu gyllid.
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu fframweithiau llywodraethu a sicrwydd sefydliadol.
  • Profiad o weithio gyda Byrddau, Gweinidogion a rhanddeiliaid uwch.
  • Hanes profedig o wella perfformiad ac atebolrwydd sefydliadol.
  • Crebwyll cadarn, ynghyd â sgiliau dylanwadu a chyfathrebu cryf.
  • Ymrwymiad i dryloywder, gwelliant parhaus a gwasanaeth cyhoeddus.
  • Mae statws siartredig neu aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol (er enghraifft mewn disgyblaethau llywodraethu, cyllid, archwilio, datblygu sefydliadol, risg neu weinyddiaeth gyhoeddus) yn ddymunol.

Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiaeth o brofiadau bywyd a phroffesiynol. Rydym wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad sy'n gynyddol amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary