More jobs:
Cyfieithydd
Job in
Mold, Flintshire, CH7, Wales, UK
Listed on 2026-02-28
Listing for:
eTeach UK Limited
Full Time
position Listed on 2026-02-28
Job specializations:
-
Retail
General Retail, Business Development
Job Description & How to Apply Below
Dymuna’r Llywodraethwyr Ffederasiwn Cwlwm benodi cyfieithydd i ddarparu gwasanaeth gyfieithu i staff a dysgwyr Ysgol Maes Garmon.
Disgwylir i'r unigolyn a benodir cyfieithu adnoddau addysgol o’r Saesneg i’r Gymraeg (ac i’r cyfeiriad arall) ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 7–13, gan sicrhau hygyrchedd a chysondeb ar draws pynciau.
Mae’r rôl hefyd yn cynnwys cefnogi athrawon a staff ategol gyda chwestiynau iaith, addasu deunyddiau ar gyfer y dosbarth a’r gweithle. Byddai’n fanteisiol pe bai’r unigolyn a benodir yn gallu darparu gwasanaethau cyfieithu yn ystod cyfarfodydd y corff llywodraethu ar ôl ysgol.
Prif gyfrifoldebau- Cyfieithu adnoddau addysgu a dysgu’n gywir rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer Blwyddyn 7–13.
- Sicrhau bod cyfieithiadau’n cadw at derminoleg benodol i’r pwnc ac yn briodol i’r grŵp oedran.
- Darparu cefnogaeth ieithyddol i athrawon, gan gynnwys prawf ddarllen a golygu deunyddiau.
- Cynorthwyo i greu adnoddau cynhwysol sy’n bodloni gofynion y cwricwlwm.
- Rheoli blaenoriaethau cyfieithu i gwrdd â therfynau amser ar gyfer dosbarthiadau.
- Cadw cyfrinachedd a chydymffurfio â pholisïau’r ysgol ar ddiogelu data.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm a chyfrannu at drafodaethau datblygu adnoddau.
- Gweithio’n hyblyg, gan gynnwys rhywfaint o waith o bell fel y cytunir.
- Rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg (ysgrifenedig a llafar).
- Safon gramadeg a sillafu rhagorol yn y ddwy iaith.
- Dealltwriaeth o derminoleg addysgol a gofynion y cwricwlwm ar gyfer Blwyddyn 7–13.
- Profiad o gyfieithu dogfennau neu adnoddau’n gywir ac yn sensitif.
- Callu gweithio’n annibynnol gan reoli amrywiaeth o dasgau i gwrdd â therfynau amser.
- Sgiliau TG cryf (Microsoft Office yn bennaf).
- Sgiliau cyfathrebu a chydweithio effeithiol i weithio gydag athrawon, staff ategol a llywodraethwyr.
- Ymroddiad i gyfrinachedd ac egwyddorion diogelu.
- Parodrwydd i weithio mewn model hybrid.
- Profiad blaenorol o gyfieithu adnoddau addysgol ar gyfer dysgwyr ysgol uwchradd.
- Gwybodaeth am derminoleg benodol i bynciau ar draws ystod o feysydd cwricwlwm.
- Profiad o ddarparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd yn ystod cyfarfodydd y corff llywodraethu ar ôl ysgol.
- Lleoliad:
Ysgol Maes Garmon a model hybrid - Oriau: 15 awr yr wythnos yn ystod amser tymor yn unig
- Cyflog:
Pro Rata £10,201 - £11,076 - Dyddiad Cau yr hysbyseb:
Dydd Mercher 17.3.26 - Mae'r penodiad yn amodol ar Ddatgeliad Gwasanaeth Datgelu ac Atal a geirdaon boddhaol.
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
Search for further Jobs Here:
×