Achubwr bywyd / Lifeguard - Canolfan Hamdden Maldwyn
Ymunwch â'r Egni yn Freedom Leisure
- Gwneud yn Dda, Teimlo'n Dda! Yn Freedom Leisure, mae popeth yn ymwneud ag awyrgylch cadarnhaol, pobl wych, a chael effaith go iawn. Ydyn, rydyn ni'n rhedeg cyfleusterau hamdden a diwylliannol, campfeydd, a phyllau nofio- ond wrth wraidd y cyfan, ein pobl ni sy'n gwneud y gwahaniaeth. Fel un o ymddiriedolaethau hamdden elusennol blaenllaw'r DU, rydyn ni'n falch o'n cenhadaeth o Wella Bywydau Trwy Hamdden.
Rydyn ni yma i helpu cymunedau i fyw bywydau iachach a hapusach trwy wneud ein canolfannau'n groesawgar, yn cynhwysol, ac yn hygyrch i bawb - oherwydd mae pawb yn haeddu teimlo'n dda. Rydyn ni i gyd am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid anhygoel gyda gwên-bob dydd. Rydyn ni'n creu mannau lle mae pobl yn teimlo'n gartrefol, wedi'u cefnogi, ac wedi'u hysbrydoli. Os ydych chi'n angerddol am helpu eraill ac yn caru creu profiadau gwych, byddwch chi'n teimlo'n gartrefol gyda ni.
Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i ddechrau - byddwn yn rhoi'r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi. Gyda dros 130 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr, mae yna lawer o le i dyfu. Mae llawer o'n tîm wedi adeiladu gyrfaoedd anhygoel gan wneud yr hyn maen nhw'n ei garu, gan helpu cwsmeriaid o ddydd i ddydd a gwneud i bobl deimlo'n dda.
Rydyn ni'n falch o fod yn gweithle lle mae croeso i bawb, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a'u cefnogi i ffynnu-o- pan fydd ein tîm yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, rydyn ni i gyd yn tyfu'n gryfach gyda'n gilydd. Os ydych chi'n hoffi siarad â phobl yna dyma'r rôl i chi yn bendant. Rydyn ni'n deall nad yw meithrin perthynas â chwsmeriaid a chydweithwyr mor hawdd ag y mae'n swnio a weithiau fe ddaw gyda phrofiad.
Byddwn yn darparu'r holl hyfforddiant angenrheidiol i fod yn Achubwr Bywyd llwyddiannus ond rydyn ni hefyd yn credu fod cyflogi pobl o gymysgedd o gefndiroedd cyflogaeth yn gallu bod yn fwy buddiol i'n tîm, efallai bydd rhai yn eu swydd gyntaf erioed ag angen rhagor o gefnogaeth oddi wrth eu cydweithwyr. Yn eich rôl fel Achubwr Bywyd, byddwch yn sicrhau bod y lefelau gorau o wasanaeth yn cael eu cyflawni i'n cwsmeriaid drwy gynnig cyfleusterau cyfeillgar, glân a diogel.
Dydyn ni ddim yn chwilio am y Duncan Goodhew nesaf ond bydd yn angenrheidiol eich bod chi'n gallu nofio'n bur dda. Os oes angen hyfforddiant ychwanegol arnoch chi i gyrraedd y lefel angenrheidiol i fod yn achubwr bywyd, peidiwch â phoeni, achos bydd un o'n hathrawon nofio ardderchog yn gallu'ch cefnogi chi i wella. Os ydych am wneud cynnydd pellach, byddwn yn cefnogi hyn drwy hyfforddiant ychwanegol, yn ffurfiol ac fel rhan o'r swydd.
Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi nad yw pawb am 'ddringo'r ysgol' ac mae hynny'n hollol iawn gyda ni. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw eich bod chi'n hapus yn eich gwaith. Os byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau addas, mae'n bosibl y bydd y swydd yn cau cyn y dyddiad cau penodol. Ymgeisiwch cyn gynted ag sy'n bosibl os oes diddordeb gennych.
Oriau: 21 awr yr wythnos, Dydd Llun
- Dydd Sul (ar sail rota)
- Do Good Feel Good!
At Freedom Leisure, we're all about positive vibes, great people and making a real impact. Yes, we run leisure and cultural facilities, gyms, and swimming pools - but at the heart of it all, it's our people who make the difference. As one of the UK's leading charitable leisure trusts, we're proud of our mission of Improving Lives Through Leisure. We're here to help communities live healthier, happier lives by making our centres welcoming, inclusive and accessible to everyone - because everyone deserves to feel good.
We're all about delivering amazing customer service with a smile - every single day. We create spaces where people feel at home, supported and inspired. If you're passionate about helping others and love creating great experiences, you'll feel right at home with us. You don't need to be an expert to get started - we'll give you all the training and support you need.
With over 130 centres across England and Wales, there's loads of room to grow. Many of our team have built amazing careers doing what they love, helping customers…
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: