×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Rheolwr Gweithrediadau​/Operations Manager

Job in Newtown, Powys, SY16, Wales, UK
Listing for: Freedom Leisure
Full Time position
Listed on 2026-09-30
Job specializations:
  • Sales
    Operations Management, Retail Sales
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 26000 - 29000 GBP Yearly GBP 26000.00 29000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Oriau: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Sul (sail rota)

Join the Energy at Freedom Leisure
- Do Good Feel Good!
At Freedom Leisure, we're all about positive vibes, great people and making a real impact. Yes, we run leisure and cultural facilities, gyms, and swimming pools - but at the heart of it all, it's our people who make the difference.

Ymunwch â'r Egni yn Freedom Leisure
- Gwneud yn Dda, Teimlo'n Dda!
Yn Freedom Leisure, mae popeth yn ymwneud ag awyrgylch cadarnhaol, pobl wych, a chael effaith go iawn. Ydyn, rydyn ni'n rhedeg cyfleusterau hamdden a diwylliannol, campfeydd, a phyllau nofio- ond wrth wraidd y cyfan, ein pobl ni sy'n gwneud y gwahaniaeth. Fel un o ymddiriedolaethau hamdden elusennol blaenllaw'r DU, rydyn ni'n falch o'n cenhadaeth o Wella Bywydau Trwy Hamdden.

Rydyn ni yma i helpu cymunedau i fyw bywydau iachach a hapusach trwy wneud ein canolfannau'n groesawgar, yn gynhwysol, ac yn hygyrch i bawb - oherwydd mae pawb yn haeddu teimlo'n dda. Rydyn ni i gyd am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid anhygoel gyda gwên—bob dydd. Rydyn ni'n creu mannau lle mae pobl yn teimlo'n gartrefol, wedi'u cefnogi, ac wedi'u hysbrydoli. Os ydych chi'n angerddol am helpu eraill ac yn caru creu profiadau gwych, byddwch chi'n teimlo'n gartrefol gyda ni.

Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i ddechrau - byddwn yn rhoi'r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi. Gyda dros 130 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr, mae yna lawer o le i dyfu. Mae llawer o'n tîm wedi adeiladu gyrfaoedd anhygoel gan wneud yr hyn maen nhw'n ei garu, gan helpu cwsmeriaid o ddydd i ddydd a gwneud i bobl deimlo'n dda.

Rydyn ni'n falch o fod yn gweithle lle mae croeso i bawb, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a'u cefnogi i ffynnu—oherwydd pan fydd ein tîm yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, rydyn ni i gyd yn tyfu'n gryfach gyda'n gilydd. Bydd y Rheolwr Gweithrediadau yn arwain yn benodol ar iechyd a diogelwch, rheoli cyfleusterau, rheoli glanhau ac ansawdd y ganolfan gyfan yn ogystal ag arwain ar reoli gweithrediad ochr y pwll gan gynnwys y tîm staff.

Bydd deiliad y post yn rhan o dîm rheoli'r ganolfan ac yn cyfrannu at gyfeiriad cyffredinol y ganolfan. Dylech eisoes fod yn gweithio ar lefel rheolwr cynorthwyol neu'n uwch o fewn gweithrediad canolig i fawr. Bydd gan y bobl yr ydym yn edrych amdanynt y gallu i reoli nifer o flaenoriaethau ar yr un pryd; yn gallu adeiladu, arwain ac ysgogi staff a bod ag angerdd am y gwasanaethau a'r digwyddiadau hamdden a diwylliannol.

Mae'r gallu i gyflawni terfynau amser tynn o dan bwysau yn gwbl hanfodol. Y peth da yw ein bod ni'n darparu hyfforddiant llawn i chi a photensial mawr ar gyfer dilyniant gyrfa, mae gennym ni dros 100 o gyfleusterau ledled Cymru a Lloegr - mae llawer o'n staff wedi adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus gyda ni oherwydd eu bod wrth eu bodd yn cael effaith gadarnhaol yn eu cymunedau lleol ac yn mwynhau'r amrywiaeth y mae'r rôl yn ei darparu.

Requirements

Gofynion
  • Sgiliau cryf rheoli pobl
  • Profiad o ddatrys problemau, rheoli sefydliadol, gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli staff
  • Dealltwriaeth o nodi gofynion hyfforddi a datblygu staff a nodi cyfleoedd datblygu
  • Ymwybyddiaeth uchel o ddatblygiadau diwydiant, mentrau newydd, tueddiadau ac ymchwir
  • Ymwybyddiaeth fasnachol sy'n trosi i gyfrannu at gweithrediad llwyddiannus ac ymarferol yn ariannol
  • Dangos angerdd am y diwydiant trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Sgiliau cyfrifiadurol a dealltwriaeth dda gan gynnwys Microsoft Word, Excel, PowerPoint ac Outlook
  • Dull sy'n canolbwyntio ar y tîm, yn gallu gweithio ar draws ffiniau sefydliadau a dangos diddordeb a bod yn gefnogol i waith staff a chydweithwyr
  • Sgiliau rheoli amser rhagorol - yn gallu delio â nifer o flaenoriaethau ar unwaith
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • G…
To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary