×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau

Job in Pembroke Dock, Pembroke, Pembrokeshire, SA71, Wales, UK
Listing for: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Full Time position
Listed on 2026-11-02
Job specializations:
  • Research/Development
    Regulatory Compliance Specialist, Research Scientist
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 39000 - 66000 GBP Yearly GBP 39000.00 66000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Location: Pembroke Dock

Mae’r Pwyllgor Safonau yn chwarae rhan ganolog yn y fframwaith moesegol sy’n rheoli ymddygiad Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae pob Aelod wedi ymrwymo i gadw at y Cod Ymddygiad, a phrif swyddogaeth y Pwyllgor yw hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan yr Aelodau hyn a’u cynorthwyo i lynu at God Ymddygiad yr Aelodau.

Mae rhai swyddogaethau penodol gan y Pwyllgor gan gynnwys ystyried cwynion bod yr Aelodau wedi torri’r Cod Ymddygiad, a phennu cosb lle bo hynny’n briodol. Hefyd y Pwyllgor sy’n ystyried ceisiadau gan yr Aelodau am oddefeb i’w caniatáu i gymryd rhan mewn trafodaethau er bod ganddynt fuddiant rhagfarnus o dan y Cod. Yn ogystal â hyn, y Pwyllgor sy’n gyfrifol am oruchwylio’r protocol rhoddion a lletygarwch i’r Aelodau.

Mae'n ofynnol yn ôl statud i'r Pwyllgor gyfarfod unwaith y flwyddyn ond bydd yn cyfarfod ar adegau eraill yn ôl yr angen ac yn ogystal os bydd Aelod o'r Awdurdod yn ceisio caniatâd i siarad a/neu bleidleisio mewn Pwyllgor. Fel arfer, cynhelir y cyfarfodydd yn ystod y dydd ar amser y bydd Aelodau'r Pwyllgor yn cytuno arno ac mewn aml-leoliad h.y. yn swyddfeydd yr Awdurdod yn Noc Penfro ac ar-lein) yn unol ag adran 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Mae’r Aelodau Annibynnol yn derbyn tâl yn unol â’r cyfraddau a bennir gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Y tâl ar hyn o bryd yw £210 y diwrnod (£105 am hanner diwrnod) hyd at uchafswm o 4 diwrnod y flwyddyn. Fel arall, rhoddir disgresiwn lleol i wneud taliad ar gyfradd o £26.25 yr awr.

Yr Aelodau Annibynnol

Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr ddangos eu bod yn annibynnol ac yn ddiduedd wrth gynorthwyo’r Pwyllgor Safonau i hyrwyddo, cynnal a gwella’r trefniadau moesegol o fewn yr Awdurdod.

Mae gwaith y Pwyllgor yn ei gwneud yn ofynnol bod yr Aelodau Annibynnol yn meddu ar y nodweddion, y sgiliau a’r gofynion canlynol:

  • Sgiliau gwrando;
  • Y gallu i ddeall a phwyso a mesur y dystiolaeth;
  • Y gallu i ddod i farn wrthrychol ac i egluro’r farn honno drwy gyfeirio at wybodaeth a thystiolaeth;
  • Sgiliau o weithio fel rhan o dîm;
  • Trin eraill â pharch a dealltwriaeth o faterion amrywiaeth;
  • Bod yn ddoeth;
  • Bod yn ddidwyll;
  • Peidio â chymryd rhan weithgar mewn gwleidyddiaeth leol na chenedlaethol;
  • Peidio â bod â hanes o anghydfod sylweddol â’r Awdurdod;
  • Peidio â bod â pherthynas agos ag unrhyw Aelod/Swyddog o’r Awdurdod.

Nid oes angen meddu ar wybodaeth fanwl o lywodraeth leol er y byddai’n fanteisiol petai ymgeiswyr posibl â diddordeb mewn materion sy’n ymwneud â bywyd a gwasanaethau cyhoeddus.

Rhaid i Aelodau Annibynnol:

  • Fod yn gymwys i’w dewis yn Aelod Annibynnol (gweler yr adran ‘Bod yn gymwys i gael eich dewis’);
  • Bod yn uchel eu parch yn y gymuned;
  • Bod yn gallu neilltuo’r amser i’r swydd;
  • Bod yn gallu cyflwyno dau dystlythyr;
  • Bod yn 18 oed a throsodd.

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â’u penodiadau yn syth a gwasanaethu am gyfnod o 5 mlynedd, os na therfynnir y swydd neu yr ymddiswyddir yn y cyfamser. Hefyd mae posibilrwydd ailbenodi am gyfnod pellach o 4 blynedd.

Mae’r Pwyllgor Safonau yn chwarae rhan ganolog yn y fframwaith moesegol sy’n rheoli ymddygiad Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae pob Aelod wedi ymrwymo i gadw at y Cod Ymddygiad, a phrif swyddogaeth y Pwyllgor yw hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan yr Aelodau hyn a’u cynorthwyo i lynu at God Ymddygiad yr Aelodau.

Mae rhai swyddogaethau penodol gan y Pwyllgor gan gynnwys ystyried cwynion bod yr Aelodau wedi torri’r Cod Ymddygiad, a phennu cosb lle bo hynny’n briodol. Hefyd y Pwyllgor sy’n ystyried ceisiadau gan yr Aelodau am oddefeb i’w caniatáu i gymryd rhan mewn trafodaethau er bod ganddynt fuddiant rhagfarnus o dan y Cod. Yn ogystal â hyn, y Pwyllgor sy’n gyfrifol am oruchwylio’r protocol…

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary