Skip to content
×

Swyddog Cadwraeth

Job in Pembroke Dock, Pembroke, Pembrokeshire, SA71, Wales, UK
Listing for: Webrecruit
Full Time position Listed on 2026-11-20
Job specializations:
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 36581 - 39481 GBP Yearly GBP 36581.00 39481.00 YEAR

Job Description & How to Apply Below

Location: Pembroke Dock

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Swyddog Cadwraeth - Adfer Byd Natur tan 31/03/2028
Gradd 7

Ydych chi'n barod am yr her nesaf yn eich gyrfa mewn cadwraeth natur? Fyddech chi’n dymuno gweithio mewn tirwedd gyfoethog ac amrywiol o glogwyni garw, rhostiroedd agored a dyffrynnoedd cysgodol, i adfer cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt?

Ymunwch â Thîm Cadwraeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i adfer a chysylltu cynefinoedd ar raddfa tirwedd. Drwy alluogi ailgyflwyno arferion traddodiadol o reoli tir, byddwch yn cynyddu amrywiaeth y bywyd gwyllt ac yn hybu gwydnwch safleoedd gwarchodedig. Dyma gyfle unigryw i fynd gam ymhellach yn eich gyrfa ecolegol mewn lleoliad ysblennydd.

Ariennir y swydd hon dri'r Rhaglen Rhwydweithiau Natur, a gyflawnir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.

Fel Swyddog Cadwraeth, byddwch:
  • Yn hwyluso gwaith cyfalaf a chytundebau rheoli ar gyfer tirfeddianwyr i gael yr amodau gorau posibl ar gyfer bywyd gwyllt ar y safleoedd.
  • Yn rheoli a monitro’r portffolio o safleoedd, gan gynnwys trefnu pori ar gyfer cadwraeth natur, a chadw cofnodion i baratoi adroddiadau ar allbynnau a chanlyniadau.
  • Yn datblygu protocolau monitora ar gyfer amrywiol fathau o cynefinoedd, sy’n addas i wirfoddolwyr, staff a thirfeddianwyr eu defnyddio.
  • Yn rhoi cyngor a chymorth technegol i dirfeddianwyr a ffermwyr yn y Parc Cenedlaethol ynglŷn â rheoli tir cadwraeth, ac annog cadwraeth drwy greu deunydd hyrwyddo.
  • Yn ymgysylltu â gwirfoddolwyr, eu recriwtio a’u hyfforddi i helpu i fonitro bywyd gwyllt. Goruchwylio gwirfoddolwyr a chontractwyr sy'n gweithio i adfer a rheoli cynefinoedd.
  • Gweithio gyda phartneriaid allweddol i lwyddo i gyflawni canlyniadau strategol ar gyfer rheoli adfer byd natur.
Bydd gennych y canlynol:
  • Cymhwyster priodol ar lefel HND/ gradd neu brofiad proffesiynol cyfatebol.
  • Profiad sylweddol o reoli tir cadwraeth a chynlluniau pori.
  • Profiad o glustnodi cynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth y DU, asesu eu cyflwr a rhoi cyngor clir ar reoli.
  • Gwybodaeth drylwyr o faterion cadwraeth cyfredol y DU a materion ymarferol o reoli cynefinoedd.
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, gan gynnwys sgiliau yn y Gymraeg ar lefel mynediad.
  • Sgiliau rhagorol o weithio mewn tîm, hunan-gymhelliant, a'r gallu i weithio ar eich liwt eich hun, rheoli amser a chyllidebau yn effeithiol, a gweithio i dargedau a therfynau amser.
  • Y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau, protocolau a manylebau.
  • Sgiliau trefnu a thechnoleg gwybodaeth da.
  • Profiad o weithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd.
  • Trwydded yrru lawn a defnydd o'ch cerbyd eich hun at ddibenion gwaith.
  • Uwch Dystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gweler y disgrifiad swydd am fanylion llawn y swydd a'r cyfrifoldebau.

Cyflog a Buddion:

Cyflog o £36,581-£39,481 y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio yn hygyrch i bawb. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar unrhyw gam o’ch cais, anfonwch e-bost at personn neu ffoniwch  Rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n defnyddio cwn cymorth a byddwn yn sicrhau y gallant fod gyda chi drwy gydol y broses…

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction

Search for further Jobs Here:

SEARCH JOBS: 10+ Million Listings
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Job language:
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary