×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Partner Busnes Adnoddau Dynol – Projectau, Pob Safle Amgueddfa Cymru

Job in Penarth, Vale of Glamorgan, CF64, Wales, UK
Listing for: Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Full Time position
Listed on 2026-09-12
Job specializations:
  • Manufacturing / Production
Job Description & How to Apply Below
Partner Busnes Adnoddau Dynol – Projectau, Pob Safle Amgueddfa Cymru

Gofyniad lefel iaith Gymraeg

Rydyn ni'n chwilio am weithiwr proffesiynol rhagweithiol a phrofiadol ym maes Adnoddau Dynol i ymgymryd â rôl Partner Busnes Adnoddau Dynol – Projectau am dymor penodol o 2 flynedd. Bydd y rôl allweddol hon yn darparu cefnogaeth bwrpasol ar draws tair menter effaith uchel o fewn y sefydliad: Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 100 , a Project Ffyrdd o Weithio.

Prif ddiben y swydd

Fel cynghorydd dibynadwy, bydd deiliad y rôl yn sicrhau bod pob elfen o'r mentrau hyn sy'n ymwneud â phobl wedi'u halinio â'n polisïau Adnoddau Dynol, gofynion cyfreithiol, a blaenoriaethau’r sefydliad. Gan weithio'n agos â rhanddeiliaid uwch – gan gynnwys aelodau'r Uwch Dîm Gweithredol ac Arweinwyr Project, byddwch chi'n cefnogi prosesau penderfynu gydag arweiniad Adnoddau Dynol amserol a strategol, ac adroddiadau strwythuredig.

Bydd gofyn i chi lywio materion cymhleth yn ymwneud â phobl, a chofnodi cerrig milltir allweddol, a bydd rheoli cyfathrebu ar draws swyddogaethau yn ganolog i lwyddiant eich gwaith.

Mae sgiliau ym maes rheoli newid yn hanfodol er mwyn hwyluso hyfforddi’r rheiny sydd yn arwain ac yn cefnogi’r gwaith o gyflawni projectau.

Ymgysylltu Strategol Adnoddau Dynol a Rhanddeiliaid

  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Adnoddau Dynol o fewn timau project, gan ddarparu cyngor o safon uchel ar gyfraith cyflogaeth, rhoi polisïau ar waith, a newid sefydliadol.
  • Cysylltu â'r Pennaeth Adnoddau Dynol i sicrhau bod ein gwaith yn alinio â pholisïau ac amcanion mewnol, gan ddarparu diweddariadau rheolaidd.
  • Gweithio gyda'r tîm Adnoddau Dynol i sicrhau bod unrhyw fentrau Ffyrdd o Weithio sy'n rhan o'n gwaith arferol yn parhau ac yn cael eu rhoi ar waith o fewn amserlenni cymeradwy, a sicrhau bod mentrau y tu hwnt i’n gwaith arferol yn cael eu cwblhau.
  • Cefnogi arweinwyr project i sicrhau bod gwasanaeth Adnoddau Dynol proffesiynol yn cael ei ddarparu ar draws y projectau – bydd hyn yn cynnwys cynllunio sefydliadol a gweithio gyda'r Partner Busnes Adnoddau Dynol lleol i recriwtio staff yn y strwythurau newydd a'r rhai sy'n egino.
  • Adeiladu perthynas waith gref â rhanddeiliaid uwch ar draws y sefydliad er mwyn sbarduno’r gwaith o gyflawni amcanion projectau.
  • Paratoi a chyflwyno adroddiadau, briffiau a diweddariadau ysgrifenedig o safon uchel i'r Uwch Dîm Gweithredol a Phwyllgorau, a chyfrannu at adroddiadau ar lefel y Bwrdd.
  • Cyfrannu at lywodraethu projectau drwy gyfrannu at gyfarfodydd project uwch, a sicrhau bod diweddariadau a risgiau sy'n ymwneud â phobl yn cael eu cofnodi'n gywir.

Adrodd ar Brojectau a Dadansoddeg y Gweithlu

  • Cynnal dangosfyrddau pobl y projectau i gofnodi darpariaethau Adnoddau Dynol, metrigau'r gweithlu, goblygiadau ariannol, ac amserlenni.
  • Monitro ac adrodd ar niferoedd staff, newidiadau staffio, tueddiadau trosiant, a rhagolygon cyllidebau staffio ar gyfer y projectau, gan weithio gyda chefnogaeth Gwybodaeth Reoli Adnoddau Dynol.
  • Cynhyrchu adroddiadau pwrpasol i lywio’r broses o wneud penderfyniadau gweithredol a sicrhau tryloywder ar draws cerrig milltir projectau.

Cyflawni gwaith Adnoddau Dynol Gweithredol

  • Sicrhau cydymffurfiad â safonau cyfreithiol a pholisïau mewnol yn holl weithgarwch Adnoddau Dynol sy’n gysylltiedig â chyflawni projectau.
  • Cefnogi gwaith recriwtio, cynllunio sefydliadol, gweithgarwch ymgynghori ac ymgysylltiad staff sy'n gysylltiedig â phrojectau, ar draws camau project.
  • Darparu mentora, hyfforddiant a chefnogaeth uniongyrchol i reolwyr sy'n rhoi newidiadau ar waith o fewn eu timau.

Penodol i’r swydd

Sgiliau a Phrofiad Hanfodol

  • Profiad profadwy o weithio ym maes Adnoddau Dynol ar lefel gynghorol neu bartner busnes, yng nghyd-destun project neu…
To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary