×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Gofalwr - Ysgol Gynradd Inn

Job in Pontypool, Torfaen, NP4, Wales, UK
Listing for: Torfaen County Borough Council
Full Time position
Listed on 2026-09-13
Job specializations:
  • Manufacturing / Production
    Manufacturing & Industrial Operations
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 9000 - 11000 GBP Yearly GBP 9000.00 11000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Gofalwr - Ysgol Gynradd New Inn

Rhowch eich meini prawf chwilio isod a dewiswch Chwilio. I chwilio am fwy nag un eitem mewn rhestr, dewiswch y meini prawf niferus y mae eu hangen gan ddefnyddio'r allweddau 'Ctrl' neu 'Shift' ar y bysellfwrdd.

Lleoliad Ysgol Gynradd New Inn

Mae manylion gofynion y swydd isod. Ble mae'n berthnasol, mae'r sgiliau, cymwysterau ac aelodaeth gofynnol am y swydd yma wedi eu cynnwys hefyd.

Manylion swydd

Oriau cytundebol 20

Pecyn 20 awr yr wythnos, 48 wythnos y flwyddyn | Parhaol

Rydym yn chwilio am ofalydd brwdfrydig, ymroddgar i ymuno â'n hysgol. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio 20 awr yr wythnos i sicrhau bod yr ysgol yn cael ei hagor a'i chau ar yr adegau penodedig, yn y cyflwr defnyddio a gymeradwywyd, a gwneud dyletswyddau eraill fel y nodir yn y swydd-ddisgrifiad, gan gynnwys diogelwch y safle, glanhau yn ôl yr angen, dyletswyddau boeler/arbed ynni, tasgau cynnal a chadw cyffredinol a mân atgyweiriadau.

Bydd angen cyflenwi yn lle'r ail ofalydd yn ôl yr angen.

Yr oriau gwaith yw 7:00am tan 12 hanner dydd a 2:00pm tan 7:00pm ar ddydd Llun a dydd Mawrth.

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio cynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i cyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio.

Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu dod i gyfweliad.

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary