×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Uwch Reolwr y Gadwyn Gyflenwi Seilwaith | Senior Supply Chain Manager Infrastructure

Job in Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37, Wales, UK
Listing for: Transport for Wales
Full Time position
Listed on 2026-02-14
Job specializations:
  • Business
    Business Development, Business Management
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 80000 - 100000 GBP Yearly GBP 80000.00 100000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

** Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**

Bydd Uwch Reolwr y Gadwyn Gyflenwi yn arwain ac yn gweithredu gweledigaeth y gadwyn gyflenwi, gan gynghori a chefnogi'r busnes ar strategaethau a mentrau'r gadwyn gyflenwi sy'n sicrhau gwerth i gysylltiadau a chontractau cadwyn gyflenwi Trafnidiaeth Cymru (TrC).

Cyfrifoldebau'r swydd
  • Cyfrannu at y gwaith o lunio ac arwain strategaeth a gweledigaeth Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi (SCM) TrC a'u troi'n amcanion sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol TrC dri weithredu mentrau a gweithgareddau'r gadwyn gyflenwi i adeiladu amgylchedd sy'n annog perfformiad uchel a datblygiad parhaus o fewn y tîm SCM ac ar draws y sefydliad.
  • Arwain y tîm i adnabod a gweithredu cyfleoedd i wella ac i greu effeithlonrwydd drwy oruchwylio tîm rheoli'r gadwyn gyflenwi a bod yn ymwybodol o newidiadau yn arferion gorau a deddfwriaeth y diwydiant i sicrhau bod gan TrC y ddarpariaeth orau phosibl a darpariaeth gydymffurfiol i reoli'r gadwyn gyflenwi, gan wella'r swyddogaeth rheoli'r gadwyn gyflenwi yn barhaus.
  • Datblygu a gyrru mentrau sy'n echdynnu gwerth o'n cysylltiadau a'n contractau cadwyn gyflenwi drwy strategaethau rheoli'r gadwyn gyflenwi, gan sicrhau arbedion a buddion sy'n cefnogi amcanion strategol TrC.
  • Arwain y tîm yn y gwaith o siapio a datblygu ffyrdd cynaliadwy o lywodraethu caffael, gan gynnwys mesurau gwerth cymdeithasol ac economaidd, drwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol ar draws y busnes a rhwydweithiau allanol i weithredu fframwaith digidol.
  • Arwain y tîm drwy esiampl wrth ddatblygu gallu'r tîm i ymgymryd â phob agwedd ar Reoli'r Gadwyn Gyflenwi o'r dechrau i'r diwedd er mwyn sicrhau bod y strategaethau cywir yn cael eu defnyddio i Reoli'r Gadwyn Gyflenwi.
  • Arwain y tîm i ddatblygu ac adeiladu cadwyn gyflenwi amrywiol drwy ymgysylltu â chyflenwyr a'u datblygu i sicrhau cadwyn gyflenwi amrywiol sy'n gallu ymateb i ofynion TrC a darparu datrysiadau cynaliadwy sy'n profi gwerth am arian.
  • Dylunio a darparu fframwaith rheoli cysylltiadau â chyflenwyr, gan gynnwys rhaglen cysylltiadau strategol ar gyfer TrC drwy feithrin cysylltiadau cryf a pharhaol â rhanddeiliaid allanol a'n partneriaid cyflawni i greu diwylliant o gydweithio ac arferion gorau ar y cyd â'n partneriaid.
  • Arwain y tîm a rheoli cyflenwyr a/neu contractau drwy ymyriadau wedi'u rheoli er mwyn gallu datrys problemau'n foddhaol a sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu i ddylanwadu ar gaffael yn y dyfodol a mynd ati'n rhagweithiol i leoli TrC yn y farchnad.
Am beth rydyn ni'n chwilio
  • Aelodaeth o'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (MCIPS) – lefel 5 neu uwch neu gyfwerth.
  • Profiad amlwg o weithio mewn amgylchedd cadwyn gyflenwi gymhleth.
  • Profiad amlwg o ddatblygu cadwyn gyflenwi amrywiol i fodloni gofynion gallu a chapasiti.
  • Profiad amlwg o nodi a rheoli risg yn y gadwyn gyflenwi.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau cynaliadwy a gwerth cymdeithasol yn y gadwyn gyflenwi.
  • Profiad amlwg blaenorol o lywodraethu a sicrhau'r gadwyn gyflenwi.
  • Profiad amlwg o ymgysylltu ag amrywiaeth o gwsmeriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol, ac o feithrin perthynas waith effeithiol â nhw.
  • Tystiolaeth amlwg o gylch bywyd rheoli perfformiad, gan sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu gwreiddio yn y gofynion yn y dyfodol.

(Newidiwch yn unol â phob swydd, boed Sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu'n ddymunol)

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.

Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud…

Position Requirements
10+ Years work experience
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary