×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Rheolwr Cyfrifoledd Cadwyn Gyflenwi Phrynu Hŷn; Prosiect | Senior Supply Chain and Procurem

Job in Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37, Wales, UK
Listing for: Transport for Wales
Full Time position
Listed on 2026-02-18
Job specializations:
  • Business
    Business Development
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 60000 - 80000 GBP Yearly GBP 60000.00 80000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Rheolwr Cyfrifoledd Cadwyn Gyflenwi a Phrynu Hŷn (Prosiect) |  Senior Supply Chain and Procurem[...]

Ymgymryd â'r gadwyn gyflenwi a chaffael angenrheidiol i alluogi Trafnidiaeth Cymru (TrC) i fodloni ei ofynion busnes, yn ogystal ag arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau caffael a chadwyn gyflenwi sy'n cefnogi cytundeb Seilwaith TrC, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â gofynion seilwaith, adeiladu, cynnal a chadw a gwasanaethau arbenigol.

Cyfrifoldebau'r swydd
  • Darparu arweinyddiaeth strategol drwy arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau caffael a chadwyn gyflenwi sy'n cefnogi cytundeb seilwaith TrC, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â gofynion seilwaith, adeiladu, cynnal a chadw a gwasanaethau arbenigol.
  • Dylunio a darparu fframweithiau caffael pwrpasol drwy weithio ar draws nifer o gategorïau, gan gynnwys adnewyddu, cynnal a chadw adweithiol, dylunio, llafur, deunyddiau, peiriannau a darnau sbâr strategol i sicrhau bod fframweithiau'n cydymffurfio â rheoliadau caffael cyhoeddus a llywodraethu TrC.
  • Bod yn atebol am ymgysylltu â'r farchnad a datblygu cyflenwyr drwy gynnal gweithgareddau ymgysylltu â'r farchnad strwythuredig a nodi cyfleoedd ar gyfer cynnwys busnesau bach a chanolig, arloesi a chreu gwerth, er mwyn adeiladu cadwyni cyflenwi cadarn, amrywiol a chymdeithasol gyfrifol.
  • Bod yn atebol am congtractau a chyflawniadau masnachol drwy arwain y gwaith o ddrafftio, negodi a gweithredu contractau cymhleth ar y cyd â thimau cyfreithiol, technegol, masnachol a gweithredol i sicrhau bod contractau'n darparu gwerth am arian, yn lliniaru risg, ac yn gwreiddio trefniadau rheoli perfformiad.
  • Arwain y gwaith trawsnewid a newyddu drwy gefnogi'r newid o hen drefniadau, gan gynnwys adnewyddu contractau i sicrhau parhad y gwasanaeth a'i fod yn cyd-fynd ag amcanion masnachol a gweithredol TrC.
  • Arwain ar berfformiad a'r gwaith rheoli risg drwy adolygu metrigau perfformiad cyflenwyr i sicrhau bod Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Cytundebau Lefel Gwasanaeth ac ymrwymiadau gwerth cymdeithasol yn cael eu gwreiddio yn y gofynion a'r gwaith parhaus o reoli risg cyflenwyr.
  • Darparu cyngor masnachol arbenigol i dimau prosiect ac uwch randdeiliaid drwy gydweithio ar draws adrannau i sicrhau dull cydgysylltiedig o ddatblygu a chyflawni strategaeth.
  • Bod yn gyfrifol am gydymffurfiaeth a llywodraethu drwy gynnal dogfennau sy'n barod i'w harchwilio, a chefnogi gofynion adrodd mewnol ac allanol i sicrhau bod yr holl weithgareddau cadwyn gyflenwi a chaffael yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys y Ddeddf Caffael, polisïau TrC, a safonau moesegol.
Am beth rydyn ni'n chwilio
  • Cymhwyster proffesiynol perthnasol, er enghraifft gradd berthnasol, MCIPS neu gyfwerth mewn Rheoli Masnachol neu Gaffael, neu brofiad perthnasol amlwg.
  • Profiad amlwg o reoli ac ymgymryd â gweithgareddau caffael yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys gweithgareddau o dan Ddeddf Caffael newydd 2023, neu brofiad blaenorol o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus a Chyfleustodau.
  • Profiad o gynnal digwyddiadau caffael ar gyfer amrywiaeth o ofynion a bod yn gyfrifol am brosesau caffael mewn amgylchedd sy'n symud yn gyflym gyda disgwyliadau heriol gan randdeiliaid.
  • Profiad amlwg o weithio mewn swydd fasnachol/rheoli cysylltiadau.
  • Profiad yn y sector Seilwaith, Trafnidiaeth neu Adeiladu
  • Hanes llwyddiannus o gyflawni prosiectau mewn amgylchedd cymhleth.
(Newidiwch yn unol â phob swydd, boed Sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu'n ddymunol)

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.

Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio.

Pwy

ydyn ni

Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis…

Position Requirements
10+ Years work experience
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary