Rheolwr Cadwyn Gyflenwi | Supply Chain Manager; Bus
Listed on 2026-02-14
-
Doctor/Physician
Healthcare Consultant, Surgeon
** Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.
Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**
Bydd y Rheolwr Cadwyn Gyflenwi yn arwain ac yn gweithredu gweledigaeth y gadwyn gyflenwi, gan gynghori a chefnogi'r busnes ar strategaethau a mentrau'r gadwyn gyflenwi sy'n sicrhau gwerth o berthnasoedd a chontractau cadwyn gyflenwi Trafnidiaeth Cymru (TrC).
Cyfrifoldebau'r swydd- Cyfrannu at lunio ac arwain strategaeth Rheoli Cadwyn Gyflenwi (RhCG) TrC a'i weledigaeth i gyflawni sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol TrC drwy weithredu mentrau a gweithgareddau'r gadwyn gyflenwi i adeiladu amgylchedd sy'n annog perfformiad uchel a datblygiad parhaus o fewn y tîm RhCG ac ar draws y sefydliad.
- Nodi cyfleoedd i wella ac i greu effeithlonrwydd drwy oruchwylio'r gadwyn gyflenwi a bod yn ymwybodol o newidiadau yn arferion gorau a deddfwriaeth y diwydiant i sicrhau bod gan TrC y ddarpariaeth rheoli cadwyn gyflenwi gorau posibl a chydymffurfiol, gan wella'r swyddogaeth rheoli'r gadwyn gyflenwi yn barhaus.
- Datblygu a gyrru mentrau sy'n echdynnu gwerth o'n perthnasoedd a'n contractau cadwyn gyflenwi trwy strategaethau rheoli'r gadwyn gyflenwi, gan sicrhau arbedion a buddion sy'n cefnogi amcanion strategol TrC.
- Datblygu a gyrru llywodraethiant caffael cynaliadwy i gynnwys mesurau gwerth cymdeithasol trwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol ar draws y busnes a sicrhau bod mesurau'n cael eu hymgorffori mewn rhwymedigaethau cytundebol a mesurau perfformiad i ddarparu tystiolaeth dangosadwy o ran adrodd am ofynion.
- Galluogi cyflawni blaenoriaethau TrC drwy gynnal dadansoddiad o'r farchnad i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu'r gadwyn gyflenwi a'r strategaeth gaffael gywir.
- Datblygu ac adeiladu cadwyn gyflenwi amrywiol drwy ymgysylltu â chyflenwyr a datblygu cyflenwyr i sicrhau cadwyn gyflenwi amrywiol sy'n gallu ymateb i ofynion TrC a darparu datrysiadau cynaliadwy sy'n profi gwerth am arian.
- Dylunio a darparu fframwaith rheoli perthnasoedd â chyflenwyr i gynnwys rhaglen cysylltiadau strategol ar gyfer TrC drwy feithrin perthnasoedd cryf a pharhaol â rhanddeiliaid allanol a'n partneriaid cyflawni i greu diwylliant o gydweithio ac arferion gorau ar y cyd â'n partneriaid.
- Aelodaeth o'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (MCIPS) – lefel 5 neu uwch neu gyfwerth.
- Profiad dangosadwy o nodi a rheoli risg yn y gadwyn gyflenwi.
- Profiad dangosadwy o weithio mewn amgylchedd cadwyn gyflenwi gymhleth.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau cynaliadwy a gwerth cymdeithasol yn y gadwyn gyflenwi.
- Profiad dangosadwy o ddatblygu'r gadwyn gyflenwi i fodloni gofynion gallu a chapasiti.
- Profiad dangosadwy blaenorol o lywodraethu a sicrhau'r gadwyn gyflenwi.
- Profiad dangosadwy o ymgysylltu ag amryw o gwsmeriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol, ac o feithrin perthynas waith effeithiol â nhw.
- Tystiolaeth dangosadwy o gylch bywyd rheoli perfformiad, gan sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu gwreiddio yn y gofynion yn y dyfodol.
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Rydyn ni'n newid y ffordd y mae’r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy’n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio.
Pwyydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru’n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r dewis cyntaf. Rydyn ni’n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml‑ddull o’r enw Rhwydwaith T, i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi’n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Rydyn ni’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: