Night Residential Child Care Practitioner
Listed on 2026-10-25
-
Sales
Retail Sales
Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos, Rhan Amser – 22.30 awr Cartref Cymuned Beddau, 11 Trem y Bryn, Beddau, Pontypridd, CF38 2DS
Ydych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc?
Ydych chi'n unigolyn gweithgar a chydnerth sydd â'r gallu i ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?
Mae cyfle wedi codi i benodi Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos yng Nghartref Cymuned Beddau. Mae sifftiau nos fel arfer yn cynnwys gweithio rhwng 10.30pm a 7.30am. Bydd cyflog ychwanegol ar gael ar gyfer sifftiau nos.
A chithau'n Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar, sy’n darparu cartref diogel, meithringar i unigolyn ifanc, dan arweiniad a chefnogaeth y Rheolwr Cofrestredig, ac Uwch Aelodau o Staff profiadol.
Byddwch chi'n ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod.
Byddwch chi'n ymrwymo i ddeall profiadau plant a phobl ifainc ac yn dangos cydymdeimlad yn eich dull o weithio gyda'r unigolion yma a'u cael nhw'n barod i fynd i'r gwely.
Byddwch chi'n darparu cymorth emosiynol, corfforol a phersonol a bydd disgwyl i chi fod yn greadigol ac ymgysylltu'n weithredol wrth weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifainc a darparu cymorth a chefnogaeth iddyn nhw. Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Trawma.
Byddwch chi'n darparu cymorth emosiynol, corfforol a phersonol sy'n caniatáu i bobl ifainc gyflawni eu potensial llawn. Weithiau, mewn sefyllfaoedd heriol, bydd gofyn i chi ymateb i broblemau tu hwnt i'r cartref. Mae'r gallu i deithio'n annibynnol yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
Bydd rhan sylweddol o'ch swydd chi'n cynnwys cefnogi unigolion drwy'r nos. Yn achlysurol, bydd gofyn i chi gysylltu â gwasanaethau megis yr Heddlu, y Garfan Iechyd a'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau, gan fynd i'r afael â sefyllfaoedd brys. Bydd aelod o staff arall yn y cartref ar gael i’ch helpu chi yn ystod y sefyllfaoedd yma. Unwaith mae'r plant a'r bobl ifainc wedi setlo, bydd dyletswyddau yn cynnwys paratoi'r cartref ar gyfer y diwrnod dilynol.
Bydd hyn yn cynnwys tasgau cyffredinol yn y cartref megis glanhau, smwddio neu goginio.
I lwyddo yn y rôl yma rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar a rhaid ichi ymrwymo i'ch cydweithwyr ac i safonau proffesiynol y swydd. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i weddu i anghenion unigol y plant a phobl ifainc.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:
- Agwedd gadarnhaol a chydnerth
- Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a gofalgar i blant a phobl ifainc sy'n eu hannog nhw i ddysgu ac i ddatblygu
- Cydymdeimlad, empathi a brwdfrydedd dros wneud penderfyniadau personol
- Y gallu i feithrin perthnasoedd cryfion
- Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu personol
- Gallu i weithio'n hyblyg
Bydd angen i chi fod yn barod i weithio sifftiau, gan gynnwys ar wyliau'r banc, ar benwythnosau a dyletswyddau aros dros nos. Efallai bydd gofyn i chi weithio mewn lleoliadau preswyl eraill yn achlysurol i gynorthwyo ein cartrefi eraill yn yr awdurdod lleol, er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Bydd disgwyl i chi feddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at, Ddiploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch chi'n cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni'r Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.
Rydyn ni'n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i…
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).