×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Swyddog Cymorth Busnes; Cydymffurfio​/Business Support Officer; Compliance

Job in St Asaph, Saint Asaph, Denbighshire, LL17 0AF, Wales, UK
Listing for: Grówp Cynefin
Full Time position
Listed on 2026-08-25
Job specializations:
  • Business
    Business Development, Operations Management
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 29779 - 33515 GBP Yearly GBP 29779.00 33515.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Swyddog Cymorth Busnes (Cydymffurfio)/ Business Support Officer (Compliance)
Location: St Asaph

Diolch am eich diddordeb yn y swydd yma gyda Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych .

Y weledigaeth ar draws mudiad Gofal a Thrwsio cyfan yw bod holl bobl hŷn yn byw mewn cartrefi sy’n gwella ansawdd eu bywyd.

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn sicrhau bod anghenion pobl hŷn neu bobl fregus yn aros yn ganolog i ddarpariaeth ein gwasanaethau a’i bod yn parhau i dderbyn gwasanaeth holistic "dal dwylo" ardderchog sydd ar gael am hyd oes y cleient. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill â chyfeirio ar draws pob gwasanaeth.

Llinell strap ein Asiantaeth yw: “ Gwell Cartrefi, Gwell Iechyd ” sy’n cael ei gefnogi drwy ein datganiad o fwriad:

-

“I alluogi pobl hŷn neu bregus i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn saff, cyfforddus, cynnes a diogel”

Ac ein gweledigaeth yw i fod yn:

-

“ Ddarparwr blaenllaw o wasanaethau arloesol sy’n; gwella ansawdd bywyd pobl hŷn neu fregus ”

Fe ddaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn is-gwmni o Grŵp Cynefin ar y 1af o Orffennaf 2015:
Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ac Elusen Cofrestredig. Rydym yn cydymffurfio ag ymarfer da cydnabyddedig ac mae ganddynt bolisïau personél blaengar sy'n rhoi amodau gwaith teg a chyfeillgar i'r teulu.

Mae Gr ŵ p Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn cyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur ac yn frwdfrydig i wneud gwahaniaeth.

Fel Swyddog Cymorth Busnes byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi perfformiadgweithredol, cydymffurfiaeth a gwelliant parhaus ar draws y sefydliad. Bydddeiliad y swydd yn gyfrifol am fonitro a dadansoddi data perfformiad achydymffurfiaeth, nodi tueddiadau a meysydd pryder, a chynhyrchu adroddiadaucywir ac ystyrlon i gefnogi penderfyniadau gwybodus gan dimau rheoli a'r Bwrdd Rheoli Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych.

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £29,779 - £33,515 y flwyddyn

Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol

Pensiwn: Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig pensiwn thro’r National Employment Savings Trust ( NEST)

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Gofal a Thrwsio Conwy a Dinbych Care & Repair

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary