Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol
Listed on 2026-11-02
-
Retail
Financial Reporting, Accounts Receivable/ Collections
Pencadlys Llanelwy/ Gweithio Hyblyg - 30 awr yr wythnos
GTaAGC Gradd 07 £ 36,581 i £39,481 y flwyddyn (pro rata)
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwerthfawr o 12 mis o gyfnod penodol i
ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel Swyddog
Cyfathrebu Corfforaethol o fewn y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol, gan
ddarparu cyflenwad ar gyfer cyfnod mamolaeth.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol cyfathrebu helpu i lunio
sut rydym yn ymgysylltu â'n staff, cymunedau, partneriaid a rhanddeiliaid.
Gan weithio ar draws ystod eang o brosiectau ac ymgyrchoedd,
byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu cyfathrebiadau clir,
ymgysylltu ac effeithiol sy'n cefnogi blaenoriaethau'r Gwasanaeth.
Byddwch yn gyfrifol am greu cynnwys cymhellol ar draws amrywiaeth o
sianeli, cefnogi cyfathrebu mewnol ac allanol, rheoli gweithgarwch
cyfryngau digidol a chymdeithasol, a helpu i amddiffyn a gwella enw da'r
Gwasanaeth trwy gyfathrebu rhagweithiol ac ymatebol.
Fel rhan o'ch datblygiad proffesiynol, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub
Gogledd Cymru yn ariannu cymhwyster Cysylltiadau Cyhoeddus
Proffesiol CIPR. Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar-lein a bydd yn
cael ei chwblhau yn eich amser eich hun, gan roi cyfle gwych i ennill
cymhwyster diwydiant cydnabyddedig wrth weithio yn y rôl.
Amdanoch chi Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol cyfathrebu brwdfrydig arhagweithiol gyda sgiliau ysgrifennu rhagorol a'r gallu i adeiladuperthnasoedd gwaith effeithiol gydag ystod eang o randdeiliaid.
Byddwch yn gallu dangos:
- Bydd gennych radd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnccysylltiedig, neu brofiad cyfatebol ym maes cyfathrebu
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol.
- Profia o ddarparu cyfathrebiadau mewnol a / neu allanol.
- Profia o greu cynnwys deniadol ar gyfer ystod o cynulleidfaoedda sianeli, gan gynnwys cyfryngau digidol a chymdeithasol.
- Sgiliau trefnu cryf a'r gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol.
- Y gallu i adeiladu perthnasoedd gwaith cadarnhaol a dylanwaduar randdeiliaid ar bob lefel.
- Barn gadarn a'r gallu i drin gwybodaeth sensitif yn briodol.
- Sgiliau Cymraeg i Lefel
4. Bydd angen i chi fod yn siaradwr
Cymraeg rhugl, gyda sgiliau ysgrifenedig a rhyngbersonol rhagorolyn y Gymraeg a'r Saesneg.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).