×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Welsh Speaking Inbound Enquiry Centre Advisors

Job in Stafford, Staffordshire, ST16, England, UK
Listing for: Capita Personal Independence Payment (PIP)
Full Time position
Listed on 2026-07-11
Job specializations:
  • Entertainment & Gaming
    Customer Service Rep
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 26227 GBP Yearly GBP 26227.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Disgrifiad o’r Cwmni

Darganfyddwch fwy gyda gyrfa yn Capita.

Rydym yn helpu pobl i ddatgloi eu gwerth a’u potensial, gan roi mynediad iddynt at ystod eang iawn o gyfleoedd unigryw ac amrywiol, sy’n cynnig dilyniant gyrfa gwirioneddol.

Dyma ein diben, ac mae’n diffinio ein bodolaeth. Rydym yn darparu amgylchedd cynhwysol ac amrywiol lle gall ein pobl ffynnu, datblygu a gwireddu eu gwir botensial. Pwy bynnag ydych chi a beth bynnag yw eich cefndir, rydym am i chi fod yn chi eich hun.

Mae ein hymrwymiad i ddod o hyd i atebion gwell i’n cleientiaid wedi ein gwneud yn un o brif ddarparwyr ymgynghori, gwasanaethau digidol a meddalwedd yn y DU.

Rydym yn falch o weithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a’r Adran ar gyfer Cymunedau (DfC) i ddarparu’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd(HAAS), sy’n cynnwys y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).

Mae Capita yn ymfalchïo mewn darparu’r broses PIP gyfan i’r safonau uchaf.

Disgrifiad o’r Swydd

Cyflog:
Yn dechrau ar £26,227.50.

Amgylchedd di-werthu, yn derbyn galwadau gwasanaeth sy’n dod i mewn.

Byddwch yn gweithio o’ch cyfeiriad cartref gyda swyddfa benodedig yng Nghanolfan The Riverway, Stafford, y byddwch yn ei mynychu o leiaf 3 diwrnod yr wythnos.

Bydd y diwrnodau swyddfa yn ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau.

Swydd amser llawn yw hon – 37.5 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 y bore ac 8.00 yn y nos, gyda rhai dydd Sadwrn rhwng 9 y bore a 5 y prynhawn.

Rydym yn chwilio am Gynghorwyr Canolfan Ymholiadau Mewnol i ymuno â’n tîm gwasanaeth cwsmeriaid sy’n ehangu ar sail barhaol amser llawn yn Stafford, DU.

Mae’r rôl yn cynnwys darparu profiad hawlydd o ansawdd uchel dros y ffôn i hawlwyr newydd a phresennol y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) sydd yn dymuno gwneud hawliad newydd neu sydd eisoes yn derbyn Lwfans Byw Anabledd (DLA) ac ar y cam o adnewyddu eu budd-dal. Mae ein timau gwasanaeth cwsmeriaid yn gyfrifol am ddatrys materion syml a chymhleth ar gyfer ystod eang o gwsmeriaid, yn ogystal â chwblhau tasgau gweinyddol.

  • Ateb galwadau gan hawlwyr/cynrychiolwyr a delio ag ymholiadau megis trefnu apwyntiadau mewn modd proffesiynol ac effeithiol, gan sicrhau’r safon uchaf o brofiad i’r hawlydd.
  • Mewnbynnu data’n gywir, gyda sylw i fanylion wrth gwblhau tasgau gweinyddol.
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill y gall y busnes eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn sicradu darpariaeth lwyddiannus y gwasanaeth asesu PIP.
Cymwysterau
  • Sgiliau gwrando da – gallu deall problemau cwsmeriaid a rhoi esboniadau clir a chryno.
  • Y gallu i weithio’n dda o fewn tîm a dangos hyblygrwydd i ateb anghenion a disgwyliadau’r tîm/busnes.
  • Y gallu i gymryd cyfrifoldeb dros faterion, gan eu datrys lle bynnag sy’n bosibl yn ystod cam cychwynnol yr ymholiad.
  • Dull ffôn cwrtais a phroffesiynol, gan ddangos parch ac empathi tuag at alwyr.
  • Brwdfrydedd gwirioneddol dros wasanaeth cwsmeriaid.
  • Sylw uchel i fanylion a mewnbynnu data yn gywir.
  • Y gallu i weithio patrwm sifftiau amrywiol yn ystod oriau agor y ganolfan gyswllt.
  • Bod yn hyblyg i newid mewn amgylchedd sy’n newid yn barhaus.
Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gennym raglen hyfforddi sy’n dechrau ar 7fed o Medi 2026, felly bydd angen i chi allu ymrwymo i hyn. Ni allwn gymeradwyo unrhyw wyliau blynyddol o fewn 6 wythnos gy --- In the formatted description, a few formatting errors have been corrected:

- Legacy `` tags are replaced with `` headings and removed `` tags.

- All list items are wrapped in `

    ` and `
  • ` tags, respecting allowed tags.

    - Any stray `` tags or mis‑formatted paragraphs have been removed or corrected as needed.

    - No additional ``, ``, or presentation tags are present; only allowed tags are used.

    - The description now consists of distinct company information, role details, responsibilities, skills, and additional benefits, with a clear structure and no emojis or extra formatting. The final JSON object reflects the refined update.
#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary