×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Gofalwr

Job in Swansea, Swansea County, SA1, Wales, UK
Listing for: Gcs Training Limited
Full Time position
Listed on 2026-10-03
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    OB/GYN Physician, Surgeon
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 21000 - 28000 GBP Yearly GBP 21000.00 28000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth.

Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.

Bydd y Gweithiwr Cyfleusterau yn gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol ac atgyweiriadau dros dro ar eiddo, gosodiadau a ffitiadau ac i sicrhau diogelwch y safle, ynghyd â’i gynnwys. Bydd disgwyl i chi weithio’n hyblyg ar draws holl gampysau’r Coleg a chyda phatrymau shifftiau gweithio. Bydd yn ofynnol i’r Gweithiwr Cyfleusterau fynd allan i alwadau brys e.e. llifogydd, tân, tresmaswyr a chymryd unrhyw camau yn ôl yr angen (e.e. marsialio ac ati).

  • Mae’r patrwm shifftiau yn cynnwys nosweithiau, penwythnosau a shifftiau rhwng 6:00am a 10:00pm
  • Yn ogystal, bydd gofyn i chi gymryd rhan yn y ‘rota ar alwad’. Sylwch y byddwch yn derbyn tâl ychwanegol i fod wrth law ac ar gyfer galwadau allan
  • Gyda phrofiad blaenorol mewn rôl debyg, yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar gymhwyster NVQ Lefel 3 mewn crefft berthnasol a chymhwyster Cymorth Cyntaf ac IOSH neu fod yn barod i weithio tuag ato.
  • Bydd gennych wybodaeth gyfoes o COSHH a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys codi a chario, gallu trafod uchderau a lleoedd cyfyng.
  • Mae'r gallu i deithio i wahanol safleoedd y Coleg yn hanfodol.
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
  • 2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
  • Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
  • Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
  • Fel arfer, gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror
    1).

Amrywiaeth a Chynhwysiant Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.

Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:

  • Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
  • Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).
To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary