Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw: Temporary Part time Teacher Not specified
Listed on 2026-07-22
-
Energy/Power Generation
Electrical Engineering
Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw:
Temporary Part time Teacher
Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw
West Cross Lane
West Cross
Abertawe
SA3 5LS
Phone:
E-bost/E-Mail: [email protected]
Gwefan / Website:
Pennaeth/Head Teacher: Mrs Rachel Collins
Dylai'r ymgeisydd fod yn ymrwymedig i ddarparu addysg o'r radd flaenaf er lles ein disgyblion.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:
- fod yn frwd dros addysg Gymraeg.
- fod yn athro/athrawes â phersonoliaeth bositif, sy'n mwynhau gweithio gyda phlant ac yn ymarferydd â safonau uchel.
- weithio fel rhan o dîm ymroddgar.
- feddu ar wybodaeth gynhwysfawr am addysgeg a chyda sgiliau dysgu o safon uchel a fydd yn herio ac yn ysgogi disgyblion.
- ddatblygu amgylchedd ddysgu symbylol a chyffrous ac yn datblygu profiadau disgyblion yn unol â Chwricwlwm i Gymru.
- ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- gyfrannu at fywyd allgyrsiol yr Ysgol.
Gallwn gynnig i chi:
- ysgol hapus a chroesawgar
- tîm o staff blaengar ac arloesol
- disgyblion gweithgar a chwrtais
- ysgol sydd â gwerthoedd cadarnhaol sydd wrth wraidd popeth
- datblygiad proffesiynol heb ei hail.
Dychwelwch eich ffurflen gais drwy e bost yr ysgol ([email protected]) neu trwy ei yrru at sylw'r Pennaeth i gyfeiriad yr ysgol.
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol i holl gweithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
Diogelu:
Mae'r Awdurdod yn unol â'r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r Awdurdod yn disgwyl i'r holl staff ymgymryd ag hyfforddiant diogelu gorfodol a bod yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am warchod plant ac oedolion.
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG):
Mae'r swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd gael y lefel datgelu GDG fel y nodir isod:
Cais am Ddatgeliad GDG Manwl
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: