Cyfarwyddwr Gweithredol - Adnoddau Corfforaethol
Listed on 2026-03-05
-
Sales
Business Development, Sales Representative
Rydym yn falch o fod yn cefnogi Cymwysterau Cymru gyda phenodiad Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Corfforaethol newydd.
Gwybodaeth Allweddol- Lleoliad:
Casnewydd gyda dull hybrid. - Contract:
Parhaol ac amser llawn, gellir trafod ceisiadau am batrymau gwaith eraill yn y cyfweliad. - Cyflog: £92,000 - £101,000 yn dibynnu ar brofiad, ynghyd â phensiwn y gwasanaeth sifil (cyfraniad cyflogwr o 28.97%), 31 diwrnod o wyliau blynyddol, a buddion cystadleuol eraill. Gellid ystyried cymorth adleoli.
- Dyddiad cau: 22 Mawrth 2026
Gan adrodd i'r Prif Weithredwr ac fel aelod o'r tîm Gweithredol, bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol - Adnoddau Corfforaethol yn cynnig arweiniad strategol i'r gyfarwyddiaeth Adnoddau Corfforaethol ac fe fyddant yn aelod gweithredol o'r tîm gweithredol gan gyfrannu at arweinyddiaeth ar draws y sefydliad cyfan.
Bydd deiliad y swydd hon yn bersonol gyfrifol i'r Prif Weithredwr am oruchwylio stiwardiaeth ariannol Cymwysterau Cymru, rheoli ei adnoddau a'i asedau dynol ac ariannol, cyflawni ei rwymedigaethau statudol a rheoleiddiol, a chydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid iddynt sicrhau bod safonau uchel o lywodraethiant corfforaethol ar waith, o fewn y gyfarwyddiaeth ac ar draws pob maes o'r sefydliad.
Bydd deiliad y swydd hon hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y sefydliad yn derbyn gwasanaeth rhagorol gan dimau Adnoddau Corfforaethol i gefnogi ein gwaith rheoleiddio a pholisi mewn modd amserol a chost-effeithiol.
Crynodeb o'r Gofynion- Cymhwyster proffesiynol mewn o leiaf un arbenigedd corfforaethol (AD, TGCh, Cyllid (â chymhwyster gan CCAB), Llywodraethiant Corfforaethol, Cyfleusterau neu Gaffael).
- Skiliau arweinyddiaeth, rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol a'r gallu i gynrychioli'r sefydliad gyda chyrff cyhoeddus eraill, gan feithrin perthnasoedd sy'n arwain at gydweithrediad sydd o fudd i'r ddwy ochr.
- Y gallu i ysbrydoli ac ysgogi gweithwyr proffesiynol trwy gyfnod o newid ac arloesi, wrth feithrin dulliau cyson ac atebol o weithio.
- Profiad helaeth o weithio mewn rôl arweinyddiaeth strategol, sy'n gallu dangos hanes blaenorol mewn:
- Rheoli swyddogaethau(au) corfforaethol er mwyn sicrhau bod y sefydliad y gweithredu'n ddidrafferth.
- Ysgogi a gwella perfformiad a datblygiad staff
- Cynllunio busnes a rheoli adnoddau
- Cefnogi penderfyniadau sefydliadol trwy strwythurau llywodraethu cadarn
- Arwain newid mewn systemau neu brosesau
- Datblygu rheolaethau ac olrhain perfformiad i wella cyflawni a rheoli risg
- Rheoli masnachol a rheoli cyflenwyr
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyflogi Acorn by Synergie i gefnogi a rheoli'r cylch recriwtio hon.
Os hoffech wneud cais, cyflwynwch y canlynol i'w hystyried cyn y dyddiad cau ar 22 Mawrth 2026:
- CV wedi'i ddiweddaru
- Datganiad ategol (uchafswm o 2,000 o eiriau) yn manylu ar eich cymhelliant dros wneud cais a'ch addasrwydd o ran manyleb y person sydd dan sylw.
- Cwblhewch y Ffurflen Fonitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Dienw.
Ein bwriad yw cynnal cyfweliad 16 Ebrill yng Nghasnewydd.
Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'r dyddiadau hyn neu os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol pellach arnoch fel rhan o'r broses, yna cysylltwch â Acorn by Synergie.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: