×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Teacher – Ysgol Gynradd Llanarth

Job in Aberaeron, SA46, Wales, UK
Listing for: Cyngor Sir Ceredigion County Council
Full Time position
Listed on 2026-02-24
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    Healthcare Consultant, Surgeon
Job Description & How to Apply Below
Location: Aberaeron

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Llanarth yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig, ymroddgar, gofalgar ac ysbrydoledig i swydd athro/athrawes i ddysgu yn yr ysgol dros gyfnod secondiad.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon blaengar a brwdfrydig sydd â dealltwriaeth a phrofiad addas o addysgu disgyblion oed cymysg. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n dangos ymrwymiad cryf i ddarparu addysg o’r safon uchaf, gan roi anghenion, lles a datblygiad pob plentyn wrth galon y gwaith. Mae’r Ysgol yn hyblyg ac yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan athrawon sy’n dysgu pob oed ar draws yr Ysgol.

Fel ymarferydd proffesiynol, bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth gref o egwyddorion Cwricwlwm i Gymru, a’r gallu i arwain ar feysydd penodol o’r cwricwlwm. Mae’r llywodraethwyr yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad helaeth o TGCH a’i integreiddio’n effeithiol i’r addysgu a’r dysgu a phrofiad o hyrwyddo a chefnogi lles disgyblion drwy’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles. Bydd disgwyl iddo/iddi gynllunio a darparu profiadau dysgu cyfoethog, perthnasol a chynhwysol sy’n hyrwyddo cynnydd parhaus ac yn cefnogi datblygiad y pedwar diben.

Byddai’r gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol.

Yn Ysgol Llanarth cewch gyfle i weithio gyda phlant ymroddgar a charedig, cymuned gefnogol a thîm o staff cydwybodol sydd yn rhoi blaenoriaeth glir ar les disgyblion a chynnal safonau uchel. Mae’r llywodraethwyr a’r Ysgol yn darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol gwerthfawr i’r staff, ac yn awyddus parhau i ddatblygu arweinwyr y dyfodol.

Ymunwch â’n tîm addysgol uchelgeisiol a charedig, lle mae pob athro yn cael y gefnogaeth i dyfu’n broffesiynol ac i greu effaith go iawn ar fywydau myfyrwyr. Rydym yn cynnig amgylchedd ysbrydoledig, adnoddau modern, a phrosesau hyblyg sy’n cefnogi arloesedd yn y dosbarth. Os ydych chi’n angerddol dros addysg a lles myfyrwyr, yn barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant ac eisiau gweithio mewn ysgol sy’n gwerthfawrogi cydweithredu a chynnydd personol, byddwch yn teimlo’n gartrefol gyda ni.

Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Athro/Athrawes yn Ysgol Gynradd Llanarth, lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.

Os hoffech drefnu ymweliad â’r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Manon Lewis‑Wright ar  neu .

Dyddiad Cyfweliad

Dydd Iau 12fed o Fawrth 2026

Fel rhan o’r cyfweliad byddwn yn gofyn i’r ymgeiswyr i gwblhau tasg ysgrifenedig ac i baratoi gwers fer o 30 munud ar ffocws llythrennedd (Thema:

- Y goedwig law).

Dyddiad dechrau

13eg o Ebrill neu cyn gynted â phosibl.

Noder

Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.

Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad.

Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary