×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Darlithydd: Seicoleg Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru

Job in Cilfrew, Neath Port Talbot, SA10, Wales, UK
Listing for: Career Choices Dewis Gyrfa Ltd
Full Time position
Listed on 2026-03-07
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    Surgeon, Healthcare Consultant
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 31140 GBP Yearly GBP 31140.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Darlithydd: Seicoleg a Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru
Location: Cilfrew

Darlithydd:
Seicoleg a Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru

Mae gennym uchelgais mawr i fod yn ddarparwr addysg blaenllaw yn y sector ac fe hoffem i chi chwarae rhan yn hyn o beth.

Os ydych chi'n angerddol dros Addysg ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, daliwch ati i ddarllen.

Band

A. Oriau dros gyfnod o flwyddyn: 699.6 - 835 (yn cynnwys boreau cynnar, gyda'r hwyr a phenwythnosau yn achlysurol). Parhaol, hyblyg ffracsiynol.

Graddfeydd Darlithydd Cyswllt 1 - 4, £26,387 - £31,140 y flwyddyn, pro rata.

  • UP1, £33,596 - £48,289 y flwyddyn, pro rata (ar gyfer darlithwyr cymwysedig).Grwp Colegau NPTC
  • I'w leoli yng Ngholeg Castell-nedd (i ddarparu cymorth yng Nghastell-nedd a Choleg Pontardawe).Ynglyn â chi:
    Yn ddelfrydol dylech feddu ar gymhwyster lefel 6 (gradd neu gyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol, profiad perthnasol, a chymhwyster addysgu (darperir hyfforddiant). Dylech hefyd feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfatebol) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel
  • Byddai Dyfarniadau Asesydd/Dilysydd yn fanteisiol.

Ynglyn â ni:
Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil.

Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad.

Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam y dylech chi weithio i ni?

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael.

Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.

Rydym yn cyfrannu dros £20 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.

Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn

  • Mae gennych 46 diwrnod o wyliau y flwyddyn, a gan ein bod ni'n cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol.

Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 59 diwrnod o wyliau blynyddol fel Darlithydd.

Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg.

Mae budd-daliadau salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr.

Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig Dyddiad Cyfweliad:
Dydd Iau 2 Ebrill 2026.

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)

Job Posting Language
Employment Category
Education (minimum level)
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary