×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Asesydd: Gwaith Saer

Job in Cilfrew, Neath Port Talbot, SA10, Wales, UK
Listing for: Career Choices Dewis Gyrfa Ltd
Full Time position
Listed on 2026-07-26
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    Healthcare Consultant, Surgeon, Medical Doctor, OB/GYN Physician
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 34720 GBP Yearly GBP 34720.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Location: Cilfrew

Mae cyfle cyffrous i ymuno â'n hadran Hyfforddiant Pathways wedi codi lle byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno addysg.

Gall y rôl hon hefyd roi profiad gwerth chweil i chi os ydych chi am ddilyn gyrfa mewn addysgu yn ddiweddarach.

Cyflog:
Graddfa 5, Pwyntiau 25-28, £32,241 - £34,720 y flwyddyn.

Contract:

Amser llawn, parhaol. 37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol). Ynglyn â chi:
Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 (NVQ/QCF neu gyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol a phrofiad diwydiannol perthnasol ynghyd â Dyfarniad Asesydd.

Mae angen cymwysterau lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg ar ymgeiswyr a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel
2. Ynglyn â ni:
Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil.

Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad.

Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam y dylech chi weithio i ni?

  • Yn cynnwys â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael.
  • Caiff y rhain eu gweinyddu thro’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.
  • Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.
  • Mae’r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn
  • Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol.
  • Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr.
  • Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.
  • Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn sylw yr mae lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.
  • Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn, yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth, a gan ein bod yn cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol.

Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn gweithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary