×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

ERYRI Integrated Natural Resource Scheme (INRS) Projects Administrator

Job in Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48, Wales, UK
Listing for: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri / Eryri National Park Authority
Full Time position
Listed on 2026-08-02
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    Healthcare Consultant, Surgeon
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 25583 - 26824 GBP Yearly GBP 25583.00 26824.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Location: Penrhyndeudraeth

Gweinyddwr Prosiectau Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS) Eryri

Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth (gyda dewisiadau gwaith hybrid)

Amdanom Ni

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn amddiffyn harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan gwmpasu 823 milltir sgwâr, mae'r Parc yn gartref i'r mynydd uchaf yng Nghymru, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, a dros 26,000 o bobl.

Mae ein Cynlluniau Adnoddau Naturiol Integredig yn anelu at reoli, gwella a diogelu ein Tirweddau Dynodedig, yn ogystal â chymunedau ffermio a’r economi leol. Mae ‘Ffermio Adfywiol Tirweddau Eryri’ a ‘Y Goeden Iawn yn y Lle Iawn’ yn brosiectau newydd i gefnogi’r gwaith hwn; mae ‘Y Goeden Iawn yn y Lle Iawn’ yn canolbwyntio ar wella rheolaeth coetiroedd ar draws y Parc Cenedlaethol, tra bod ‘Ffermio Adfywiol Tirweddau Eryri’ yn gweithio gyda ffermwyr i gyflwyno mwy o ddulliau ffermio adfywiol.

Rydym bellach yn chwilio am Gynghorydd Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS) i ymuno â ni ar sail amser llawn – gan weithio 37 awr yr wythnos – ar gontract cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2029.

Sylwch fod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Darllenwch y disgrifiad swydd i weld y lefel union sydd ei hangen.

Y Manteision
  • Cyflog o £25,583 - £26,824 y flwyddyn
  • Y potensial ar gyfer gweithio hybrid
  • Cynllun pensiwn
  • Ap Llesiant 360, gan gynnwys mynediad at Feddyg Teulu, cymorth iechyd meddwl, ac adnoddau ffitrwydd
  • Gostyngiadau a rhaglenni cymorth ariannol
  • Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Y Rôl

Fel Gweinyddwr Prosiectau, byddwch yn darparu cefnogaeth weinyddol ac ariannol hanfodol i helpu i gyflawni prosiectau sy'n hyrwyddo ffermio adfywiol a rheoli coetiroedd cynaliadwy ar draws Parc Cenedlaethol Eryri.

Gan weithio'n agos gyda'r Rheolwr Rhaglen, Swyddogion Prosiect a'r Tîm Cyllid, byddwch yn cefnogi gweinyddiaeth ddyddiol prosiectau INRS. Byddwch yn monitro cyllidebau, yn prosesu cytundebau grant, hawliadau a thaliadau, ac yn sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn gywir ac ar gael i'w hadrodd.

Byddwch hefyd yn helpu i gynnal llywodraethu prosiectau effeithiol trwy baratoi papurau cyfarfodydd, cymryd cofnodion, prosesu anfonebau a chyfrannu data ar gyfer adroddiadau a gwerthusiadau prosiectau.

Yn ogystal, byddwch yn:

  • Cynorthwyo gyda mapio prosiectau gan ddefnyddio QGIS a darparu'r data gofynnol
  • Cyfathrebu â ffermwyr, partneriaid a deiliaid cytundebau drwy gydol y prosiectau
  • Cael a phrosesu gwybodaeth i helpu i atal cyllido dwbl
  • Cefnogi monitro a gwerthuso prosiectau trwy gasglu data ac adrodd yn gywir
Amdanoch Chi

I gael eich ystyried ar gyfer y swydd Gweinyddwr Prosiectau, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Y gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Profiaid o gefnogi cyflawni prosiectau a rhaglenni cadwraeth trwy ddyletswyddau gweinyddol a chyfathrebu sylfaenol
  • Profiaid o weithio gyda systemau gweinyddol
  • Hyder wrth fonitro a chofnodi gwariant trwy system cronfa ddata
  • Cymhwysedd wrth drefnu cyfarfodydd a chymryd cofnodion cywir a chyfrinachol
  • Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol, ysgrifenedig a llafar rhagorol
  • Sgiliau TG rhagorol, yn enwedig mewn pecynnau meddalwedd fel Excel a Word
  • O leiaf, cymwysterau TGAU neu gyfwerth, neu brofiad cyfwerth

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 17 Awst 2026.

Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 24 Awst 2026.

Gall sefydliadau eraill alw'r swydd hon yn Weinyddwr Prosiect, Gweinyddwr Cadwraeth, Gweinyddwr Prosiect Ecoleg, Cydlynydd Cadwraeth, Gweinyddwr Cymorth Prosiect, Cydlynydd Prosiect, Swyddog Cymorth Prosiect, neu Gynorthwyydd Prosiect.

ERYRI Integrated Natural Resource Scheme (INRS) Projects Administrator

National Park Offices, Penrhyndeudraeth (with hybrid options)

About Us

Eryri National Park Authority protects the natural beauty, wildlife and cultural heritage of Eryri National Park. Covering 823 square miles, the Park is home to the highest mountain in Wales, the largest natural lake in Wales, and over 26,000 people.

Our Integrated Natural Resource Schemes aim to manage enhance and protect our Designated Landscapes, as well as farming communities and the local economy. Ffermio Adfywiol Tirweddau Eryri and Y Goeden Iawn yn…

Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary