×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Technegydd: Gwaith Coed a Gwaith Saer

Job in Cilfrew, Neath Port Talbot, SA10, Wales, UK
Listing for: Career Choices Dewis Gyrfa Ltd
Full Time position
Listed on 2026-08-10
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    OB/GYN Physician, Surgeon, Medical Doctor, Healthcare Consultant
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 25949 GBP Yearly GBP 25949.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Location: Cilfrew

Cyfle cyffrous i ymuno â’n tîm Adeiladwaith ac Amgylcheddau Adeiledig lle y byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu addysg.

Graddfa 2, Pwyntiau 14-16, £25,949 - £25,949 y flwyddyn. 37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol). Parhaol, amser llawn.

Ynglyn â chi:
Yn ddelfrydol, dylech feddu ar gymhwyster Lefel 2 mewn disgyblaeth berthnasol, cymwysterau mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel
2. Dylai ymgeiswyr hefyd feddu ar brofiad perthnasol.

Mae’r gallu i weithredu a chynnal a chadw cyfarpar a pheiriannau yn hanfodol.

Ynglyn â ni:
Grwp Colegau NPTC yw un o r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil.

Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad.

Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam y dylech chi weithio i ni?

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael.

Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.

Rydym yn cyfrannu dros £10 i ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.

Mae gennym amrywiaeth o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae n bodloni anghenion y Coleg.

Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr.

Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydyn ni yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy n ddefnyddiol i ch swydd. Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary