×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Cydgysylltydd Prosiectau: Prosiectau Cyllid Allanol

Job in Pontardawe, Neath Port Talbot, SA8, Wales, UK
Listing for: Nptc-Group-of-College
Full Time position
Listed on 2026-10-11
Job specializations:
  • Doctor/Physician
    OB/GYN Physician, Surgeon
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 12634 - 13606 GBP Yearly GBP 12634.00 13606.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Location: Pontardawe

Benefits:
Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffnio, gwyliau hael

Ydych yn unigolyn trefnus a manwl gywir? Os felly, beth am wneud cais i ymuno â’n tîm Prosiectau Cyllid Allanol yng Ngrwp Colegau NPTC.

Graddfa 5, Pwyntiau 25 - 28, £32,241 - £34,720 y flwyddyn, cyfateb i £12,634 - £13,606.

Rhan-amser, parhaol.

14.5 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).

Ynglyn â chi
:
Yn ddelfrydol, bed gennych gymhwyster lefel 4 (HNC neu gyfwerth), a phrofiad perthnasol. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2 (gyda gwybodaeth ymarferol o MS Word ac Excel yn y gweithle). Mae profiad o gydlynu prosiectau yn hanfodol.

Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam y dylech chi weithio i ni?

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.

Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth), a gan ein bod yn cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol.

Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae budd-daliadau salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary