Skip to content
×

Swyddog Llesiant Chynhwysiant Digidol; Cyfnod Mamolaeth

Job in Cilfrew, Neath Port Talbot, SA10, Wales, UK
Listing for: Nptc-Group-of-College
Full Time position Listed on 2026-10-25
Job specializations:
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 23682 - 25504 GBP Yearly GBP 23682.00 25504.00 YEAR

Job Description & How to Apply Below

Position: Swyddog Llesiant a Chynhwysiant Digidol (Cyfnod Mamolaeth)
Location: Cilfrew

Swyddog Llesiant a Chynhwysiant Digidol (Cyfnod Mamolaeth)

Benefits:
Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffnio, gwyliau hael

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig i chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo dysgu cynhwysol a chefnogi llwyddiant dysgwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar y cyd â dysgwyr, teuluoedd a staff i wella ymgysylltiad, annibyniaeth a chyfranogiad ar draws y Coleg.

Graddfa 4, Pwyntiau 21 - 24, £29,209 - £31,455 y flwyddyn, pro rata sy'n gyfwerth â £23,682 - £25,504 y flwyddyn.

30 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).

Contract: Rhan amser, tymor penodol tan 7 Mai 2027.

Ynglyn â chi: Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster lefel 5 (HND neu gyfwerth), a phrofiad o gyflwyno gweithdai, sesiynau hyfforddi neu weithgareddau ymgysylltu â dysgwyr. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 3 (gan gynnwys profiad o ddefnyddio rhaglenni MS Office ac MS Teams).

Byddai profiad o weithio mewn llyfrgell neu leoliad addysgu yn fanteisiol.

Grwp Colegau NPTC - wedi'i leoli yng Ngholeg Castell-nedd.

Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam y dylech chi weithio i ni?

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.

Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth), a gan ein bod yn cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol.

Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction

Search for further Jobs Here:

SEARCH JOBS: 10+ Million Listings
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary