Therapydd Iaith Lleferydd Arbenigol Iawn; cyfwerth â Band 7
Job in
Corwen, Denbighshire, LL21, Wales, UK
Listing for:
Cygnet Care Services Limited
Full Time
position
Listed on 2026-11-08
Job specializations:
-
Doctor/Physician
Job Description & How to Apply Below
Location: Corwen
Helping others improve and turn their lives around – there’s no better feeling. It’s what we do for thousands of people at more than 150 sites across the UK. Be a part of it.
Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol Iawn (cyfwerth â Band
7)
Hyd at 50,632 - £ 57,940 yn ddibynnol ar brofiad
Contract parhaol, llawn amser
Lleoliad:
Cygnet Afon Las Yn sgil agor gwasanaeth newydd, mae cyfle cyffrous ar gael i Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol ymuno â’n tîm!
Mae Cygnet Afon Las yn wasanaeth newydd sbon a fydd yn agor ym mis Ebrill 2027. Mae’r ysbyty 15 gwely hwn wedi’i leoli yng Nghorwen, Sir Ddinbych, a bydd yn darparu gwasanaeth niwrowybyddol a gofal a chymorth arbenigol i ddynion â chyflyrau niwrolegol cymhleth ochr yn ochr â chanlyniadau seiciatrig. Bydd y gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau gan y gymuned yn ogystal â gwasanaethau niwrolawfeddygol a niwroadsefydlol, gan gynnig llwy ar gyfer asesu, rhoi triniaeth ac adfer yn unol â Model Gofal Cygnet.
Efallai y bydd unigolion yn cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ac efallai y bydd gan rai ohonynt hanes fforensig.
Y Swydd Fel Therapydd Iaith a Lleferydd yn y gwasanaeth hwn, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol â llwyth achosion arbenigol o gleifion ag anghenion cymhleth, gan asesu eu hanghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu (SCLN), yn ogystal â’u hanghenion bwyta, yfed a llyncu (EDS). Byddwch yn gweithio ac yn rhoi mewnbwn yn unol â Llwy SLT Cygnet ar gyfer gwasanaethau niwroseiciatreg. Fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ar y safle, byddwch hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y gwasanaeth i gefnogi’r gwaith o roi dulliau rheoli ar waith a gwella sgiliau’r gweithlu yn ôl yr angen.
Byddwch yn rhan o wasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd ehangach sy’n gweithredu ar draws y cwmni, ac felly byddwch yn cael cyfle i gyfrannu at brosiectau ar raddfa fawr. Byddwch yn cael goruchwyliaeth o ansawdd uchel a bydd digonedd o gyfleoedd DPP i’ch cefnogi.
Rydym yn chwilio am Therapydd Iaith a Lleferydd sydd yn meddu ar y canlynol:
Gradd/diploma ôl-radd (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Therapi Iaith a Lleferydd, wedi cofrestru â’r HCPC (Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal) ac yn aelod o’r RCSLT (Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd)
Cymhwysedd i asesu a rheoli anghenion EDS yn annibynnol (gellir rhoi hyfforddiant a chyfle i ddatblygu yn y maes hwn os oes angen)
Profiad ym maes niwroleg a / neu gyflyrau niwroddirywiol a gwybodaeth dda am Therapi Iaith a Lleferydd clinigol i ddangos hynny. Bydd unigolion â sgiliau trosglwyddadwy hefyd yn cael eu hystyried.
Dealltwriaeth o Gefnogi Ymddygiad Cadarnhaol gyda phwyslais ar gynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Tystiolaeth o fod yn aelod da o dîm gydag awydd gwirioneddol i helpu eraill
Sgiliau cyfathrebu / rheoli amser rhagorol
Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig:
Goruchwyliaeth Glinigol Ragorol, cyfleoedd DPP a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ar gyfer dyletswyddau clinigol ac anghlinigol.
Cyfarfodydd gwasanaeth rheolaidd a chyfarfodydd cymorth gan gymheiriaid gyda Therapyddion Iaith a Lleferydd.
Cyfle i roi eich stamp ar y pecyn cymorth
Hyfforddiant cynefino llawn
Aelodaeth am ddim o CENCyfle i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau, mentrau Gwella Ansawdd a chyfleoedd ymchwil
Cynllun arian wedi’i ariannu gan y cwmni sy’n eich galluogi i hawlio gwerth hyd at £1000 y flwyddyn o fuddion, gan gynnwys Ffisiotherapi, Osteopathi, Optometreg, Deintyddiaeth, ymgynghoriadau arbenigol, sganiau a phresgripsiynau am ddim.
Pecyn Cymorth Iechyd Clyfar, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu 24 awr Gostyngiad yng nghost aelodaeth campfa yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd am ddim gyda Class Pass, Rhaglenni Maeth ac Ymgynghoriadau Ffitrwydd Gwobrau i weithwyr, cynllun buddiannau sy’n cynnwys…
To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction