Skip to content
×

Rheolwr Cartref Gofal Preswyl - Plas Crigyll

Job in Bryngwran, Isle of Anglesey, LL65, Wales, UK
Listing for: Isle of Anglesey County Council
Full Time position Listed on 2026-11-19
Job specializations:
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 32000 - 45000 GBP Yearly GBP 32000.00 45000.00 YEAR

Job Description & How to Apply Below

Location: Bryngwran

Bydd y dolenni hyn yn agor tab newydd yn eich porwr.

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.

Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff:
Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Gweithio fel Rheolwr Cofrestredig yng Nghartref Gofal yr Awdurdod Lleol.

Hyrwyddo amgylchedd gofalgar ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth trwy sicrhau ymarfer proffesiynol o safon uchel sydd yn gofalu am anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol, deallusol ac ysbrydol pob preswylydd unigol.

Gweithredu gofynion Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Rheoli ac arwain tîm o staff mewn ardal ddynodedig a sicrhau bod gwasanaethau’n cwrdd â gofynion deddfwriaethau a chanllawiau perthnasol.

Sicrhau bod gwaith y gwasanaeth yn cwrdd â disgwyliadau cyrff allanol. Mae’r gallu i ddatrys problemau a meddwl yn arloesol yn rhan allweddol o’r swydd.

Darparu cymorth Rheolwr Llinell i staff a gwasanaeth cymorth o ansawdd uchel i’r holl wasanaethau preswyl a gofal dydd ar gyfer oedolion.

Mwy o wybodaeth

Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Mae'r dogfennu atodedig ar gael yn y linciau. Bydd clicio ar linc dogfen yn cychwyn ei lawrlwytho.

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction

Search for further Jobs Here:

SEARCH JOBS: 10+ Million Listings
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary