Athro – Cymraeg Saesneg
Location: Menai Bridge
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swyddCyflawni dyletswyddau proffesiynol athro fel sy’n ofynnol gan y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon yn ôl yr amgylchiadau ac yn unol â pholisïau’r ysgol o dan gyfarwyddyd y Pennaeth. Bod yn gyfrifol am ddysgu a chyflawniad disgyblion a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
Amlinellir dyletswyddau a chyfrifoldebau proffesiynol athrawon yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).
I addysgu Cymraeg a Saesneg i ddisgyblion CA3.
Mwy o wybodaethPenodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.
Mae'r swydd hon ar gyfer Medi 2026 hyd at Awst 2027.
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni caisFfurflenni cais i’w dychwelyd i: Mari Roberts, Ysgol David Hughes, Porthaethwy, Ynys Mon, LL59 5SS
Dogfennau ar gaelMae'r dogfennu atodedig ar gael yn y linciau. Bydd clicio ar linc dogfen yn cychwyn ei lawrlwytho.
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: