Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd/Homelessness Prevention Services Manager
Location: Penygroes
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.
Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.
Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.
Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â'n tîm. Mae hwn yn cyfle cyffrous i'r person cywir a rhywun sy'n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.
Arweiniwch y ffordd wrth wneud gwahaniaeth go iawnFel Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd dros dro, byddwch yn arwain ac yn ysbrydoli timau cefnogaeth arbenigol i ddarparu gwasanaethau o'r safon uchaf i bobl sy'n wynebu heriau tai a digartrefedd. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu gwasanaethau arloesol sy'n helpu unigolion i gynnal eu tenantiaethau, cryfhau eu llesiant, a chyrraedd eu potensial.
Yn y rôl hon byddwch yn:- Arwain a datblygu timau perfformiad uchel sy'n darparu cefnogaeth o ansawdd rhagorol i bobl ag anghenion isel, canolig ac uchel.
- Sicrhau bod ein gwasanaethau atal digartrefedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn cynnig gwerth am arian, ac yn ymateb i anghenion cwsmeriaid drwy ddull
Amgylchedd sy'n Wybodus o Safbwynt Seicolegol (PIE). - Sicrhau cydymffurfiaeth fel Darparwr Cefnogaeth Achredig, gan reoli gwasanaethau'n effeithiol ac o fewn cyllideb.
- Gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Tai a Chefnogaeth i arwain ar ddatblygiad, twf ac arloesedd ym maes atal digartrefedd.
- Adeiladu a chynnal perthnasoedd cryf gyda chomisiynwyr, awdurdodau lleol a phartneriaid statudol a gwirfoddol.
- Sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni gofynion Grant Cymorth Tai, cytundebau awdurdodau lleol, a'r ddeddfwriaeth a'r safonau perthnasol ym maes tai, digartrefedd, trais domestig a chefnogaeth.
Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa a'r angerdd i fod yn allweddol wrth gwneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw'r swydd i chi.
Y PecynMath o gytundeb:
Dros dro
Cyflog: £44,997 y flwyddyn pro rata
Lleoliad:
Penygroes / gweithio o gartref
Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 36 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn (25 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw) gan cynyddu i 41 diwrnod pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth (30 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw
Teithio:
Hanfodol
Pensiwn:
Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Disgrifiad Swydd- DS Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd 09.26.pdf
- JD Homelessness Prevention Services Manager 09.26-
- Pecyn
- Benefits
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennaua Dyddiadau Perthnasol
- Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd
- Privacy Notice Job
- Canllawiau cwblhau
- Guidelines for completing your
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).