Partner Busnes Adnoddau Dynol – Projectau, Pob Safle Amgueddfa Cymru
Listed on 2026-02-16
-
Business
Business Development
Gofyniad lefel iaith Gymraeg
Rydyn ni'n chwilio am weithiwr proffesiynol rhagweithiol a phrofiadol ym maes Adnoddau Dynol i ymgymryd â rôl Partner Busnes Adnoddau Dynol – Projectau am dymor penodol o 2 flynedd. Bydd y rôl allweddol hon yn darparu cefnogaeth bwrpasol ar draws tair menter effaith uchel o fewn y sefydliad: Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 100 , a Project Ffyrdd o Weithio.
Prif ddiben y swydd
Fel cynghorydd dibynadwy, bydd deiliad y rôl yn sicrhau bod pob elfen o'r mentrau hyn sy'n ymwneud â phobl wedi'u halinio â'n polisïau Adnoddau Dynol, gofynion cyfreithiol, a blaenoriaethau’r sefydliad. Gan weithio'n agos â rhanddeiliaid uwch – gan gynnwys aelodau'r Uwch Dîm Gweithredol ac Arweinwyr Project, byddwch chi'n cefnogi prosesau penderfynu gydag arweiniad Adnoddau Dynol amserol a strategol, ac adroddiadau strwythuredig.
Bydd gofyn i chi lywio materion cymhleth yn ymwneud â phobl, a chofnodi cerrig milltir allweddol, a bydd rheoli cyfathrebu ar draws swyddogaethau yn ganolog i lwyddiant eich gwaith.
Mae sgiliau ym maes rheoli newid yn hanfodol er mwyn hwyluso hyfforddi’r rheiny sydd yn arwain ac yn cefnogi’r gwaith o gyflawni projectau.
Ymgysylltu Strategol Adnoddau Dynol a Rhanddeiliaid
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Adnoddau Dynol o fewn timau project, gan ddarparu cyngor o safon uchel ar gyfraith cyflogaeth, rhoi polisïau ar waith, a newid sefydliadol.
- Cysylltu â'r Pennaeth Adnoddau Dynol i sicrhau bod ein gwaith yn alinio â pholisïau ac amcanion mewnol, gan ddarparu diweddariadau rheolaidd.
- Gweithio gyda'r tîm Adnoddau Dynol i sicrhau bod unrhyw fentrau Ffyrdd o Weithio sy'n rhan o'n gwaith arferol yn parhau ac yn cael eu rhoi ar waith o fewn amserlenni cymeradwy, a sicrhau bod mentrau y tu hwnt i’n gwaith arferol yn cael eu cwblhau.
- Cefnogi arweinwyr project i sicrhau bod gwasanaeth Adnoddau Dynol proffesiynol yn cael ei ddarparu ar draws y projectau – bydd hyn yn cynnwys cynllunio sefydliadol a gweithio gyda'r Partner Busnes Adnoddau Dynol lleol i recriwtio staff yn y strwythurau newydd a'r rhai sy'n egino.
- Adeiladu perthynas waith gref â rhanddeiliaid uwch ar draws y sefydliad er mwyn sbarduno’r gwaith o gyflawni amcanion projectau.
- Paratoi a chyflwyno adroddiadau, briffiau a diweddariadau ysgrifenedig o safon uchel i'r Uwch Dîm Gweithredol a Phwyllgorau, a chyfrannu at adroddiadau ar lefel y Bwrdd.
- Cyfrannu at lywodraethu projectau drwy gyfrannu at gyfarfodydd project uwch, a sicrhau bod diweddariadau a risgiau sy'n ymwneud â phobl yn cael eu cofnodi'n gywir.
Adrodd ar Brojectau a Dadansoddeg y Gweithlu
- Cynnal dangosfyrddau pobl y projectau i gofnodi darpariaethau Adnoddau Dynol, metrigau'r gweithlu, goblygiadau ariannol, ac amserlenni.
- Monitro ac adrodd ar niferoedd staff, newidiadau staffio, tueddiadau trosiant, a rhagolygon cyllidebau staffio ar gyfer y projectau, gan weithio gyda chefnogaeth Gwybodaeth Reoli Adnoddau Dynol.
- Cynhyrchu adroddiadau pwrpasol i lywio’r broses o wneud penderfyniadau gweithredol a sicrhau tryloywder ar draws cerrig milltir projectau.
Cyflawni gwaith Adnoddau Dynol Gweithredol
- Sicrhau cydymffurfiad â safonau cyfreithiol a pholisïau mewnol yn holl weithgarwch Adnoddau Dynol sy’n gysylltiedig â chyflawni projectau.
- Cefnogi gwaith recriwtio, cynllunio sefydliadol, gweithgarwch ymgynghori ac ymgysylltiad staff sy'n gysylltiedig â phrojectau, ar draws camau project.
- Darparu mentora, hyfforddiant a chefnogaeth uniongyrchol i reolwyr sy'n rhoi newidiadau ar waith o fewn eu timau.
Penodol i’r swydd
Sgiliau a Phrofiad Hanfodol
- Profiad profadwy o weithio ym maes Adnoddau Dynol ar lefel gynghorol neu bartner busnes, yng nghyd-destun project neu drawsnewidiad yn ddelfrydol.
- Gwybodaeth weithredol ragorol o gyfraith cyflogaeth y DU a fframweithiau polisi Adnoddau Dynol.
- Gallu datblygu a chyflawni adroddiadau a chyflwyniadau i staff arwain uwch.
- Sgiliau ym maes rheoli rhanddeiliaid, gan gynnwys profiad o weithio ag uwch reolwyr, byrddau a chyrff llywodraethu.
- Gallu cyfathrebu'n hyderus gyda meddylfryd dadansoddol, a’r gallu i wneud penderfyniadau doeth.
- Sgiliau rheoli project a threfnu cryf, gyda'r gallu i gydbwyso nifer o flaenoriaethau'n effeithiol.
Sgiliau Dymunol ac Ychwanegol
- Sgiliau sgwrsio yn y Gymraeg (ar lafar ac ar bapur) i gefnogi ymgysylltu ar draws safleoedd, neu barodrwydd i ddysgu.
- Profiad yn y sector cyhoeddus neu’r sector nid-er-elw, gan gynnwys projectau iechyd, projectau addysg neu brojectau llywodraeth leol.
Gofynion Ychwanegol
- Parodrwydd a hyblygrwydd i deithio'n rheolaidd i safleoedd, yn enwedig Llanberis.
- Gallu gweithio’n annibynnol ac yn rhan o dimau project traws-swyddogaethol.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: