×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Ranger

Job in Wrexham, Wrexham County, LL13, Wales, UK
Listing for: National Trust for Places of Historic Interest or Natural Beauty
Full Time position
Listed on 2026-07-22
Job specializations:
  • Dental / Dentistry
    Healthcare Consultant
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 27612 GBP Yearly GBP 27612.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Fel Ceidwad
, byddwch yn cyfrannu at wella cynefinoedd a mynediad i gefn gwlad ac arfordir Pen Llŷn. Gan weithio yn rhai o lefydd a gofodau mwyaf trawiadol y wlad, boed law neu hindda, bydd eich cariad tuag at yr awyr agored yn ysbrydoli eraill wrth i chi wneud eich gorau i sicrhau bod tirweddau’n cael eu cyflwyno’n hyfryd ac ecosystemau’n ffynnu.

Cyflog: £27,612 y flwyddyn

Hyd y

Contract:

Parhaol

Oriau Gwaith: Byddwch yn gweithio 37.5 awr yr wythnos, gan gynnwys rhai gyda’r nosau, penwythnosau a Gwyliau Banc.

Dyddiad Cyfweld Posibl: Dydd Iau 6ydd Awst

Mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

O ddydd i ddydd byddwch yn rhan o dîm Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan ddarparu gwaith cadwraeth a chynnal a chadw ar draws yr ystad, o ffensio, atgyweirio cloddiau, adeiladu waliau sych i blannu coed a rheoli rhywogaethau ymledol. Er mai Cwrt (Aberdaron) fydd y man sefydlog, mae’r gwaith wedi’i wasgaru ar draws safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorthdinllaen, Ynys Môn, Glan Faenol a Phen Llŷn.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda thenantiaid ffermydd, gwirfoddolwyr a’r gymuned leol, gyda’r mwyafrif ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, felly mae gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Does dim dwywaith y bydd yr ardal y byddwch yn gweithio ynddi yn drawiadol iawn, ond gall amgylchiadau ar yr arfordir fod yn gyfnewidiol. Byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn yr awyr agored gydol y flwyddyn, felly mae’n rhaid i chi fod yn barod am bob math o dywydd, meddu ar brofiad da o weithio yn yr awyr agored, a bod yn wydn ac yn barod i addasu eich cynlluniau er mwyn gweithio gyda’r tywydd ar y diwrnod.

Rydym yn falch o’r rhan mae’r Gymraeg yn ei chwarae yn y llefydd a’r cymunedau rydym yn gofalu amdanynt ar hyd a lled Cymru. P’un a ydych chi’n siaradwr Cymraeg rhugl, yn ddysgwr, neu’n hollol newydd i’r iaith, byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd ei angen ar gyfer eich rôl ac er mwyn ymgysylltu gydag iaith a diwylliant Cymru fel rhan o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Wedi’ch arwain gan y Rheolwr Cefn Gwlad, byddwch yn blaenoriaethu a rheoli rhaglen waith effeithiol a hyblyg, gan gymryd cyfrifoldeb dros gyflawni prosiectau bach a chanolig. Byddwch yn cefnogi eich cyd-geidwaid a chydweithwyr yn bennaf ar draws Ynys Môn a Phen Llŷn wrth ddeall gwaith cadwraeth a mynediad, ond ar adegau byddwch yn cefnogi cyd-geidwaid ar safleoedd eraill ar draws gogledd Cymru.

Byddwch hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn rheoli harbwr Porthdinllaen, lle mae yna angorfa gydol y flwyddyn ar gyfer pysgotwyr ac angorfa dymhorol ar gyfer cychod eraill.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cynnal safonau ardderchog o ran edrychiad eiddo a’r gwaith cynnal a chadw ynddo, gan gyflawni amcanion cadwraeth yn llwyddiannus, a byddwch yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd proffesiynol cryf gyda phartneriaid allanol, cydweithwyr, contractwyr, tenantiaid a rheolwyr tir cyfagos.

Byddwch yn cyfathrebu eich gwaith cadwraeth i ystod eang o gynulleidfaoedd, rhai newydd, a rhai sy’n bodoli eisoes, a hynny drwy ddigwyddiadau, teithiau cerdded tywys a gwaith ymgysylltu gyda chymunedau lleol.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os:

  • oes gennych Ddiploma/NVQ Lefel 3 (neu uwch) mewn cadwraeth cefn gwlad neu amgylcheddol, neu brofiad perthnasol cyfwerth
  • oes gennych brofiad ymarferol o ran sgiliau cefn gwlad, gwledig a choedwigaeth
  • oes gennych sgiliau adnabod bywyd gwyllt da
  • oes gennych brofiad o gwblhau asesiadau risg a datganiadau dull, a’ch bod yn gallu dangos dealltwriaeth dda o reoliadau iechyd a diogelwch
  • oes gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys y gallu i roi cyflwyniadau cyhoeddus
  • oes gennych ddealltwriaeth a/neu brofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr
  • ydych yn gallu rheoli contractwyr a phrosiectau bach, gan gynnwys cyllidebau
  • ydych yn meddu ar drwydded yrru lawn y DU
  • Cynllunpensiwnsylweddolhydat 10% ogyflogsylfaenol
  • Mynediad am ddim i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a’ch plant (dan 18 oed)
  • Benthyciadtocyntymor
  • Gostyngiaday buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
  • Lwfansgwyliauhydat 32diwrnodmewnperthynasâhydygwasanaeth,ynogystalâchynllunprynugwyliau,ynamodolarfodlonimeiniprawfgofynnol
#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary