Assistant Operations Manager
Listed on 2026-02-16
-
Sales
Business Development, Sales Representative
Lleoliad gwaith:
Depo Abergele/ Tan Y Gopa Ydi newid yn rhoi egni i chi ac ydych chi’n cael eich ysbrydoli gan y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol?
Ydych chi’n ffynnu ar ddod o hyd i ffyrdd mwy clyfar, mwy effeithlon o weithio a siapio gwasanaethau rheng flaen o safon uchel.
Os felly, mae Conwy
- sydd wedi’i leoli yn nhirwedd syfrdanol gogledd Cymru
- yn cynnig y lle perffaith i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa arweinyddol.
Fel Rheolwr Gweithrediadau Cynorthwyol, byddwch yn chwarae rôl hollbwysig yn rheoli a thrawsnewid ein gwasanaethau Priffyrdd, Glanhau Strydoedd a Hawliau Tramwy o fewn ardal ddaearyddol benodol.
Mae ein timau mewnol yn cyflwyno amrywiaeth eang o swyddogaethau gweithredol, yn cynnwys gwaith trwsio ar lwybrau troed a ffyrdd cerbydau, chwistrellu chwyn, gwaith cynnal a chadw’r gaeaf, ysgubo ffyrdd, casglu sbwriel a gwagio biniau stryd.
Dyma swydd ble gall eich arsylwadau a’ch arloesedd ddylanwadu’n uniongyrchol ar y gwasanaethau y mae preswylwyr yn eu profi bob dydd.
Fe fyddwch chi hefyd yn gweithredu fel Swyddog Dyletswydd Rheoli/Rhagweld yn ôl trefn rota, gan helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau’n ymatebol, yn wydn ac wedi’u cydlynu’n dda.
I lwyddo, bydd gennych sgiliau trefnu cryf, gallu i arwain ac ysbrydoli timau gweithredol amrywiol, a’r hyder i herio arferion presennol er mwyn gyrru gwelliant parhaus.
Rydym ni’n chwilio am rywun sydd â hanes clir o gyflwyno newid cadarnhaol, ynghyd â chreadigrwydd, chwilfrydedd ac ymrwymiad i ragoriaeth.
Mae sgiliau cyfathrebu clir yn hollbwysig gan y byddwch chi’n gweithio’n agos gyda’r cyhoedd, aelodau etholedig ac uwch arweinwyr ar draws yr Awdurdod.
Os ydych chi’n chwilio am swydd sydd yn cynnig pwrpas, amrywiaeth a’r cyfle i wir siapio dyfodol gwasanaethau lleol—tra’n parhau i dyfu eich sgiliau a’ch arbenigedd eich hun—fe allai hwn fod yn gyfle perffaith i chi.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Sophie Birchall-Rogerson Rheolwr Gweithrediadau Sophie.b Gofynion y Gymraeg:
Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
#J-18808-LjbffrTo Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search: