Yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu sy'n siarad Cymraeg
-
Science
Job Description & How to Apply Below
Teitl y Swydd: Athro/Athrawes Gynradd Cyfrwng Cymraeg
Lleoliad: Ceredigion
Dyddiad Dechrau: Dechrau ar unwaith
Cyflog: £172.98 y dydd
Allwch chi ysbrydoli meddyliau ifanc drwy gyflwyno gwersi diddorol a deniadol yn y Gymraeg?
Oes gennych chi sgiliau rheoli dosbarth cryf a'r gallu i addasu eich dulliau addysgu ar draws gwahanol grwpiau blwyddyn mewn ysgol cynradd?
Ydych chi'n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru?
Mae Teacher Active yn falch o fod yn gweithio gydag ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ledled Ceredigion sy'n chwilio am Athro neu Athrawes Gynradd Cyfrwng Cymraeg ymroddedig a brwdfrydig. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu athrawon cynradd ymroddedig, angerddol ac o safon uchel i'n hysgolion, yn ogystal â chynnig cyfleoedd arbenigol mewnol ar gyfer datblygiad gyrfa er mwyn cynnal ein safonau uchel.
P'un a ydych chi'n athro neu'n athrawes cynradd sy'n chwilio am waith cyflenwi o ddydd i ddydd, swydd hirdymor neu swydd barhaol, mae ein tîm arbenigol o ymgynghorwyr yn gweithio gydag amrywiaeth o ysgolion a lleoliadau addysgol. Byddant ar gael 24/7 i'ch cefnogi drwy ein proses ymsefydlu ar-lein syml a hwylus.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
- Statws Athro Cymwysedig (SAC/QTS) – mae croeso hefyd i Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG/NQT) gwneud cais
- Rhuglder yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda'r hyder i gyflwyno gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg
- Profiad o addysgu mewn ysgol cynradd
- Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru
- Sgiliau rhagorol o ran rheoli dosbarth a chyfathrebu
- Agwedd hyblyg, frwdfrydig ac addasadwy tuag at addysgu ar draws gwahanol grwpiau blwyddyn mewn ysgol cynradd
Yn gyfnewid am yr uchod, gallwch ddisgwyl derbyn:
- Tîm ymroddedig o ymgynghorwyr sydd ar gael 24/7 i'ch helpu drwy'r broses ymsefydlu syml
- Cyrsiau a thystysgrifau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) fel rhan o sianel My-Progression
- Cyfraddau cyflog sy'n arwain y farchnad
- Cynllun Atgyfeirio Teacher Active – Derbyniwch hyd at £100 pan fyddwch yn cyfeirio ffrind atom. Mae telerau ac amodau'n berthnasol.
Mae ein staff yn cael eu talu drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE), felly gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn talu'r swm cywir o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol, heb orfod poeni am daliadau gweinyddol yn cael eu tynnu o'ch cyflog haeddiannol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd Athro/Athrawes Gynradd Cyfrwng Cymraeg hon, a byddaf yn cysylltu â chi i drafod y cyfle gwych hwn.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction