Skip to content
×

Yn Chwilio Am Gynorthwyydd Addysgu Sy'n Siarad Cymraeg

Job in Aberystwyth, Ceredigion, SY23, Wales, UK
Listing for: TeacherActive
Full Time position Listed on 2026-11-14
Job specializations:
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 28000 - 36000 GBP Yearly GBP 28000.00 36000.00 YEAR

Job Description & How to Apply Below

Position: Yn Chwilio Am Gynorthwyydd Addysgu Sy'n Siarad Cymraeg!
Yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu sy'n siarad Cymraeg!

Teitl y Swydd: Athro/Athrawes Gynradd Cyfrwng Cymraeg

Lleoliad: Ceredigion

Dyddiad Dechrau: Dechrau ar unwaith

Cyflog: £172.98 y dydd

Allwch chi ysbrydoli meddyliau ifanc drwy gyflwyno gwersi diddorol a deniadol yn y Gymraeg?

Oes gennych chi sgiliau rheoli dosbarth cryf a'r gallu i addasu eich dulliau addysgu ar draws gwahanol grwpiau blwyddyn mewn ysgol cynradd?

Ydych chi'n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru?

Mae Teacher Active yn falch o fod yn gweithio gydag ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ledled Ceredigion sy'n chwilio am Athro neu Athrawes Gynradd Cyfrwng Cymraeg ymroddedig a brwdfrydig. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu athrawon cynradd ymroddedig, angerddol ac o safon uchel i'n hysgolion, yn ogystal â chynnig cyfleoedd arbenigol mewnol ar gyfer datblygiad gyrfa er mwyn cynnal ein safonau uchel.

P'un a ydych chi'n athro neu'n athrawes cynradd sy'n chwilio am waith cyflenwi o ddydd i ddydd, swydd hirdymor neu swydd barhaol, mae ein tîm arbenigol o ymgynghorwyr yn gweithio gydag amrywiaeth o ysgolion a lleoliadau addysgol. Byddant ar gael 24/7 i'ch cefnogi drwy ein proses ymsefydlu ar-lein syml a hwylus.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • Statws Athro Cymwysedig (SAC/QTS) – mae croeso hefyd i Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG/NQT) gwneud cais
  • Rhuglder yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda'r hyder i gyflwyno gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Profiad o addysgu mewn ysgol cynradd
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru
  • Sgiliau rhagorol o ran rheoli dosbarth a chyfathrebu
  • Agwedd hyblyg, frwdfrydig ac addasadwy tuag at addysgu ar draws gwahanol grwpiau blwyddyn mewn ysgol cynradd

Yn gyfnewid am yr uchod, gallwch ddisgwyl derbyn:

  • Tîm ymroddedig o ymgynghorwyr sydd ar gael 24/7 i'ch helpu drwy'r broses ymsefydlu syml
  • Cyrsiau a thystysgrifau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) fel rhan o sianel My-Progression
  • Cyfraddau cyflog sy'n arwain y farchnad
  • Cynllun Atgyfeirio Teacher Active – Derbyniwch hyd at £100 pan fyddwch yn cyfeirio ffrind atom. Mae telerau ac amodau'n berthnasol.

Mae ein staff yn cael eu talu drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE), felly gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn talu'r swm cywir o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol, heb orfod poeni am daliadau gweinyddol yn cael eu tynnu o'ch cyflog haeddiannol.

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd Athro/Athrawes Gynradd Cyfrwng Cymraeg hon, a byddaf yn cysylltu â chi i drafod y cyfle gwych hwn.

To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
(If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
View / Apply for Jobs
Matching My Jurisdiction

Search for further Jobs Here:

SEARCH JOBS: 10+ Million Listings
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary