×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Gweinyddwr Cymorth yr Adran Cyfiawnder Troseddol Teulu (18.5 Oriau'r Wythnos

Job in Carmarthen, Carmarthenshire, SA31, Wales, UK
Listing for: Allscreens Nationwide Ltd
Full Time position
Listed on 2026-08-17
Job specializations:
  • Science
    Food Production
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 24000 - 30000 GBP Yearly GBP 24000.00 30000.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below
Position: Gweinyddwr Cymorth yr Adran Cyfiawnder Troseddol Teulu (18.5 Oriau'r Wythnos)

Gweinyddwr Cymorth yr Adran Cyfiawnder Troseddol Teulu (18.5 Oriau'r Wythnos)

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?

Dyddiad Cyfweliad

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Gweinyddwr Cymorth yr Adran Cyfiawnder Troseddol yn Yr Adran Cyfiawnder Troseddol.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Darparu cymorth gwasanaeth trafodaethol amserol ac effeithiol i swyddogaethau a gyflenwir gan y maes busnes.

Defnyddio systemau’r heddlu a systemau cenedlaethol er mwyn cefnogi busnes Heddlu Dyfed-Powys yn effeithiol.

Cyflwyno cymorth o safon uchel i wasanaethau plismona rheng flaen.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd cyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus

24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)

Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle

Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)

Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi

Cynllun pensiwn

Rhwydweithiau Cymorth Staff

Cyfleoedd gweithio hyblyg

Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Cynhelir cyfweliadau: 07/09/2026 - 08/09/2026

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recru

#J-18808-Ljbffr
Note that applications are not being accepted from your jurisdiction for this job currently via this jobsite. Candidate preferences are the decision of the Employer or Recruiting Agent, and are controlled by them alone.
To Search, View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap here to make a Search:
 
 
 
Search for further Jobs Here:
(Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
Location
Increase/decrease your Search Radius (miles)
0
200
Filters
Education Level
Experience Level (years)
Posted in last:
Salary