×
Register Here to Apply for Jobs or Post Jobs. X

Intern Fforensig Digidol

Job in Carmarthen, Carmarthenshire, SA31, Wales, UK
Listing for: Dyfed-Powys Police
Apprenticeship/Internship position
Listed on 2026-11-02
Job specializations:
  • Science
    Clinical Research, Research Scientist, Research Assistant/Associate
Salary/Wage Range or Industry Benchmark: 27204 GBP Yearly GBP 27204.00 YEAR
Job Description & How to Apply Below

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?

Dyddiad Cyfweliad

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Ydych chi'n chwilio am swydd sy'n mynd i roi boddhad i chi a'ch herio a lle mae eich gwaith yn wirioneddol bwysig?

Ydych chi am fod yn rhan o dîm anhygoel o bobl, sy'n gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau?

Os hynny, efallai mai interniaeth â thâl gyda Heddlu Dyfed Powys yw'r lle i chi ddechrau eich gyrfa.

Gall darn o dystiolaeth hanfodol fod tu ôl i bob dyfais ddigidol, a gallech chi fod yn rhan o’r tîm sy’n ei datgelu. Fel Intern Gwaith Fforensig Digidol gyda Chynghrair Fforensig y Tri Heddlu o fewn Heddlu Dyfed-Powys, byddwch chi’n rhoi eich gwybodaeth academaidd ar waith. Byddwch chi’n cael y cyfle i ddatblygu sgiliau fforensig ymarferol gan weithio ochr yn ochr â thechnegwyr ac ymchwilwyr profiadol mewn labordy ag achrediad ISO
17025 sy’n dilyn Codau Ymarfer y Rheolydd Gwasanaetes Fforensig. Byddwch chi’n cyfrannu at ymchwiliadau drwy gefnogi dioddefwyr, dwyn troseddwyr i gyfiawnder a chadw ein cymunedau’n ddiogel.

Cyflog y swyddi hyn yw £27,204 a hynny am gyfnod penodol o 12 mis, i ddechrau ym mis Medi 2027.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Rhaglen Interniaeth Heddlu Dyfed Powys:

Rhaid i chi fod yn astudio ar gwrs gradd ar hyn o bryd neu wedi graddio o fewn y 12 mis diwethaf

Mae’n rhaid eich bod wedi byw yn y DU am bum mlynedd barhaus yn y cyfnod yn union cyn ymgeisio. Mae’r cyfnod pum mlynedd yn cael ei gyfrif o’r cyfnod yn union cyn y gwneir cais.

Pwy ydyn ni:

Heddlu Dyfed Powys yw'r ardal heddlu fwyaf yng Nghymru a Lloegr yn ddaearyddol. Mae'n cwmpasu 4,188 milltir sgwâr dros y pedair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai hon yw un o'r ardaloedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddi yn y DU, a gellir dadlau mai hon hefyd yw'r fwyaf deniadol.

Sut

mae'n gweithio:

Mae ein hinterniaethau yn rhoi cyfle i israddedigion gael eu cyflogi gan Heddlu Dyfed Powys. Maent wedi'u cynllunio i roi cipolwg anhygoel i chi o sut rydym yn gweithio. Dyma gyfle i chi roi eich gwybodaeth academaidd ar brawf mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwn eich sicrhau y byddwch yn cael eich cefnogi gydol eich interniaeth gan dîm arbenigol a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.

Am

bwy rydyn ni'n chwilio:

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig sydd am ennill sgiliau cyflogadwyedd rhagorol ochr yn ochr â'u hastudiaethau gradd. Rydym am benodi interniaid sy'n llawn syniadau arloesol, sydd ag etheg gwaith gwych ac sy'n gallu gweithio mewn amgylchedd tîm mewn sefydliad disgybledig.

A allech chi fod yn intern a fydd yn dod â sgiliau newydd a phersbectif ffres i'n helpu i herio ein ffyrdd presennol o weithio?

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

  • 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
  • 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
  • Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
  • Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
  • Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith
  • Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
  • Cynllun pensiwn
  • Rhwydweithiau Cymorth Staff
  • Cyfleoedd gweithio hyblyg
  • Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
  • Darpariaethau tâl salwch

Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â’r gwiriadau fetio, meddygol a geirda gofynnol gan Heddlu Dyfed-Powys.

Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin: 18 Chwefror 2027.

dystiolaeth yn erbyn y PUM cyrhaeddiad canlynol...
  • dystiolaeth yn erbyn y PUM cyrhaeddiad canlynol yn…
  • To View & Apply for jobs on this site that accept applications from your location or country, tap the button below to make a Search.
    (If this job is in fact in your jurisdiction, then you may be using a Proxy or VPN to access this site, and to progress further, you should change your connectivity to another mobile device or PC).
     
     
     
    Search for further Jobs Here:
    (Try combinations for better Results! Or enter less keywords for broader Results)
    Location
    Increase/decrease your Search Radius (miles)
    0
    200
    Filters
    Education Level
    Experience Level (years)
    Posted in last:
    Salary